Marwolaeth dyn mewn llyn: Cyhuddo dau o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu cyhuddo o ddynladdiad wedi i ddyn farw ar ôl disgyn i lyn ym mis Chwefror wrth gasglu peli golff.
Roedd Gareth Pugh, 29 oed, yn gweithio yng Nghlwb Golff Peterstone Lakes yng Nghasnewydd.
Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio camerâu dan y dŵr i ddod o hyd iddo, ond bu farw.
Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 25 oed o Lyn-nedd a dyn arall 47 oed o Aberdâr wedi cael gorchymyn i ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod.
Bydd y ddau yn ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Ffynhonnell y llun, Google