Uwch Gynghrair Lloegr: Middlesbrough 3-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Jordi Amat yn ildio'r gic o'r smotyn a arweiniodd at ail gôl Middlesbrough
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Abertawe wrth iddyn nhw golli'n drwm yn Middlesbrough.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 18 munud, diolch i ergyd gref gan Alvaro Negredo.
Y Sbaenwr sgoriodd yr ail gôl hefyd, y tro hwn o'r smotyn wedi i Jordi Amat lorio Adam Forshaw.
Er i Abertawe ddechrau'r ail hanner ar y droed flaen, fe rwydodd Marten de Roon ar ôl 58 munud i roi ergyd drom i dîm Bob Bradley.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch un safle o waelod Uwch Gynghrair Lloegr.