Cau ymchwiliad i adroddiad o ymosodiad rhyw yng Nghaerfyrddin

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Heddwas ym maes parcio Sant Pedr yng Nghaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cau eu hymchwiliad i adroddiad o ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerfyrddin.

Roedd rhan o faes parcio Sant Pedr ar gau yn gynharach ddydd Sadwrn ar gyfer profion fforensig.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd eu bod yn ymchwilio i adroddiad am ymosodiad ar fenyw yn gynnar fore Sadwrn.