'Darganfod llys y Brenin Arthur' yng ngorllewin Sir Efrog
- Cyhoeddwyd
Mae pobl wedi bod yn pendroni am leoliad caer chwedlonol y Brenin Arthur ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Ond nawr mae cyn-athro ym Mhrifysgol Bangor yn honni ei fod wedi darganfod gwir leoliad llys Camelot.
Mae nifer o leoliadau ar draws Cymru a Phrydain wedi cael eu cynnig yn y gorffennol, gan gynnwys Caerleon, Aberteifi a Thyddewi.
Ond mae'r Athro Peter Field yn dweud mai'r lleoliad tebygol yw caer Rufeinig fechan yn Slack, y tu allan i Hebden Bridge yng ngorllewin Sir Efrog.
Datrys dirgelwch?
"Hap a damwain oedd hyn. Roeddwn i'n edrych ar fap, ac yn sydyn roedd popeth yn gwneud synnwyr," meddai'r Athro Field, sydd yn arbenigo mewn llenyddiaeth Arthuraidd.
"Dw i'n meddwl mod i wedi datrys dirgelwch sydd yn mynd nôl 1,400 o flynyddoedd."
Yng ngyfnod y Rhufeiniaid roedd caer yn Slack o'r enw Camulodunum, sef "caer y Duw Camul" - enw wnaeth newid i Camelot dros amser.
Yn ystod cyfnod Arthur - tua 500 OC - byddai'r Brythoniaid wedi bod yn ymladd yr Eingl-Sacsoniaid oedd wedi goresgyn de a dwyrain ynysoedd Prydain.
Byddai Slack, oedd ar y ffordd Rufeinig rhwng Caer ac Efrog, wedi bod yn leoliad perffaith i amddiffyn y gorllewin a'r gogledd yn ogystal ag arfordir y dwyrain.
Bu'r Athro Field yn dysgu ym Mangor rhwng 1964 a 2004, ac mae wedi bod yn ymchwilio i leoliad Camelot ers 18 mis.
"Os oedd 'na Frenin Arthur go iawn byddai wedi byw tua 500 OC, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot yn dod o gerdd Ffrengig o ardal Champagne yn 1180," meddai.
"Does dim sôn am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hyn, yr Oesoedd Tywyll, pan oedd y wlad yn rhyfela, ac ychydig iawn oedd yn cael ei gofnodi.
"Yn y bwlch yma roedd pobl yn pasio gwybodaeth, ond byddai llawer wedi ei golli wrth ei drosglwyddo, ac fe allai pobl fod wedi dyfeisio ffeithiau neu newid gwybodaeth."