Rheithgor i ddychwelyd ddydd Llun yn achos miliwnydd

Georgina Symonds a Peter Morgan Image copyright Wales News Service

Bydd rheithgor yn dychwelyd ddydd Llun i barhau i ystyried eu dyfarniad yn achos llys miliwnydd 54 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd y rheithgor eu hanfon adref ddydd Gwener oherwydd salwch i un aelod.

Mae Peter Morgan o Lanelen yn Sir Fynwy wedi ei gyhuddo o dagu Georgina Symonds ym mis Ionawr eleni.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, dywedodd mam Ms Symonds, Deborah, bod ei merch yn cael ei thalu hyd at £10,000 y mis i fod yn gymar personol i Mr Morgan.

Roedd hi'n gwybod popeth amdano ac "yn credu y gallai ei ddifetha".

Yn flaenorol, clywodd y llys bod Mr Morgan yn aml yn prynu anrhegion drud i Ms Symonds, ond roedd wedi gosod dyfais clustfeinio mewn byngalo yng Nghasnewydd lle'r oedd yn caniatáu iddi fyw.

Mae Peter Morgan yn gwadu llofruddio Ms Symonds ac fe glywodd y llys honiadau ei fod yn cael ei flacmelio ganddi.