Y babi yn y bocs

Carren a Bedri Image copyright Carren Lewis

Mae stori bachgen o Benrhyndeudraeth gafodd ei ddarganfod yn fabi bach mewn bocs ger y ffin rhwng Twrci a Syria yn cael ei dweud ar Radio Cymru ddydd Llun 19 Rhagfyr.

Ar ôl blynyddoedd o drïo cael plant fe wnaeth Carren Lewis o Benrhyndeudraeth a'i gŵr fabwysiadu Bedri o gartref i blant amddifad yn Nhwrci 10 mlynedd yn ôl.

Roedd Carren yn byw yn Nhwrci ar y pryd ar ôl mynd yno i weithio i gwmni gwyliau pan oedd hi'n 27 mlwydd oed.

Roedd yn briod efo dyn o Dwrci, roedd ganddi fusnes llwyddiannus yn rhedeg gwesty yn Marmaris a doedd dim bwriad ganddi i symud nôl i Gymru.

Ond wedi methu â chael plant a mynd drwy driniaeth IVF dair gwaith heb lwyddiant, roedd yna straen ar y briodas, meddai Carren.

"Oeddan ni isho plant ond dros y blynyddoedd ddaru o ddim digwydd.

"Roedd mynd trwy IVF dair gwaith yn reit drwm ar y briodas felly nes i benderfynu mynd off am wythnos i gael amser i fi fy hun. Roedd petha reit anodd inni."

Plant ar y stryd

Aeth i ran newydd o Dwrci nad oedd hi wedi bod iddi o'r blaen, Diyarbakir, yn ne ddwyrain y wlad ger y ffin â Syria lle mae 'na dlodi mawr a lot fawr o blant yn byw ar y stryd, meddai Carren.

Yn fwy diweddar mae'r ddinas wedi bod ynghanol brwydro rhwng byddin Plaid Gweithwyr y Cwrdiaid, y PKK, a lluoedd diogelwch y wlad.

Roedd Carren a'i gŵr wedi bwriadu mabwysiadu a phan welodd hi fod cymaint o blant ar y stryd yn ardal Diyarbakir dechreuodd feddwl a fyddai hi'n gallu mabwysiadu plentyn o'r ardal honno.

Fe gawson nhw fynd i gartref plant yn Diyarbakir lle roedd Bedri yn fabi bach pum mis oed ar y pryd.

Image copyright Associated Press
Image caption Rhan o ddinas Diyarbakir wedi ei difrodi yn y brwydro yn 2016

Roedd wedi ei orchuddio gan grachennau brech yr ieir, ei drwyn yn llawn annwyd a phroblem gyda'i lygaid pan welon nhw o gynta, meddai Carren, ond roedd ganddo "wên anhygoel" ac fe syrthiodd mewn cariad efo fo.

Mae hi'n cofio'r profiad "anhygoel" o gael mynd â Bedri efo nhw dri mis yn ddiweddarach: "Roedd y gŵr a fi yn eistedd ar y gwely efo Bedri rhyngddon ni ac oedd o'n edrych i fyny arnon ni ac oeddan ni'n edrych i lawr arno fo a dyma fi jyst yn sbïo ar 'y ngŵr a deud 'O mai god, dani newydd gael babi!' Babi mawr wyth mis a hannar oed!

"Oeddan ni jyst yn edrych ar ein gilydd a meddwl 'ni sy' bia fo'.

"Oedd o'n deimlad mor anhygoel a nes i ddechrau crïo - yr holl flynyddoedd o fod wedi colli a wedi mynd drwy IVF dair gwaith, wedi gobeithio cyn gymaint dros y blynyddoedd i gael plentyn a dyma ni yn yr hotel yma yn nwyrain Twrci efo babi.

"Oedd o jyst yn anhygoel, fel breuddwyd."

Nôl i Gymru

Ond doedd y problemau ddim drosodd i Carren a'i gŵr ac fe wahanon nhw. Dyna pryd y teimlodd Carren dynfa nôl i Gymru i fagu'r bachgen bach.

"O'n i isho dod nôl i Gymru ac o'n i'n gwbod mod i eisiau i Bedri gael ei ddwyn i fyny mewn cymuned Gymraeg efo teulu o'i gwmpas, teulu oedd yn ei garu.

"Ro'n i eisiau iddo gael hanes tu ôl iddo fo am fod gynno fo ddim hanes cyn fi - roedd hynna'n bwysig imi."

Image caption Bedri yn yr ysgol gyda'i ffrind, Steff

Mae Bedri erbyn heddiw yn un o "hogiau Penrhyn" a bydd yn mynd i Ysgol Uwchradd Ardudwy y flwyddyn nesa'.

Mae'n galw ei hun yn 'Dwrc Cymraeg' ac yn cymryd diddordeb byw yn ei famwlad, yn enwedig gyda'r brwydro sydd wedi digwydd yno yn 2016.

Ond yng Nghymru mae eisiau byw meddai Carren ac mae eisiau iddi siarad Cymraeg efo fo er ei bod hi'n gallu siarad Twrceg.

Stori 'arbennig'

Mae Carren wedi gofalu dweud ei hanes wrtho ers pan mae'n fabi bach, ac mae yntau wrth ei fodd yn ei chlywed.

Mae'n bwysig i Carren fod Bedri'n gwybod ei "stori arbennig" er mwyn ei baratoi at y dyfodol.

Bachgen ar ei ffordd i'r ysgol ddaeth o hyd iddo mewn bocs mewn pentref ger dinas Diyarbakir ar ôl meddwl i ddechrau ei fod yn clywed sŵn cath fach yn mewian y tu mewn.

Aeth i ddweud wrth blismon ac aeth o â'r babi bach i'r ysbyty lleol a rhoi'r enw Mohammed arno yn wreiddiol er mwyn ei gadw'n saff.

"Fel mae o'n tyfu a mynd yn hŷn mi fydd gynno fo gwestiynau eraill i fi ac oni isho'i brepario fo," meddai.

Er nad ydi Carren yn gwybod dim am rieni gwaed Bedri nac amgylchiadau ei eni mae hi'n credu mai Cwrdiad ydi o oherwydd ei bryd a'i wedd a'i fod o bosib yn dod o Syria yn wreiddiol gan fod nifer o Syriaid yn gweithio yn ardal Diyarbakir.

Image caption Mae Carren a Bedri yn helpu i gasglu pethau i ffoaduriaid yn yr Eglwys Uniongred ym Mlaenau Ffestiniog. Yn y llun hefyd mae cyflwynydd Radio Cymru, Llion Williams, Y Tad Deiniol a Gwenlli Haf o fudiad Cefn

Mae'r Cwrdiaid yn un o grwpiau ethnig mwya'r dwyrain canol sy'n byw ar ororau mynyddig Twrci, Irac, Syria, Iran ac Armenia a llawer iawn yn byw yn Diyrbakir.

"Fyddai'n meddwl am ei fam ar ei ben-blwydd a mae Bedri yn gofyn yn aml 'pam ti'n meddwl bod hi 'di rhoi fi i ffwrdd?'.

"Da ni'm yn gwybod pam ... da ni'm yn gwybod be 'di'r stori, ond mae'n rhaid ei fod o'n rwbath mawr," meddai Carren.

Cafodd Bedri fodd i fyw yn ddiweddar meddai Carren pan gafodd o glywed mai o Dwrci daw Siôn Corn, neu Sant Niclas yn wreiddiol, ac roedd wrth ei fodd yn gwisgo ei siwmper Siôn Corn i fynd i'r ysgol ar ddiwedd y tymor o'r herwydd!

Image caption Carren a Bedri yn cwrdd â ffoaduriaid o Syria ym Mangor ar raglen Radio Cymru

Mae Carren a Bedri yn weithgar yn eu hardal yn helpu elusennau lleol sy'n helpu ffoaduriaid. Ar y rhaglen maen nhw'n cwrdd â theulu sydd wedi ffoi o Syria i Fangor.

Gyda'r argyfwng yn Syria yn y newyddion, lluniau torcalonnus o blant a phobl yn Aleppo ac mewn gwersylloedd ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, fedr Carren ddim ond meddwl beth allai fod wedi digwydd i Bedri pe bai hi ddim wedi ei fabwysiadu.

"Fedrai ddim peidio meddwl am Bedri pan dwi'n gweld plant bach o Syria - maen nhw mor debyg.

"Dwi'n meddwl, be' fyddai ei hanes?"

Image copyright Carren Lewis

Hefyd ar y BBC