Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Wolves

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunAnthony Pilkington yn llongyfarch Matthew Connolly wedi'r gôl gyntaf

Cafodd tîm pêl droed Caerdydd gryn sioc o fewn dau funud i ddechrau eu gêm gartref yn erbyn Wolverhampton Wanderers.

Methodd gôl geidwad Caerdydd Ben Amos ddelio ag ergyd o bell gan Matt Doherty ac aeth Caerdydd ar ei hôl hi.

Pan ddechreuodd yr ail hanner roedd Neil Warnock wedi ysgwyd ei dîm ac fe ddaeth Craig Noone a Kenneth Zohore i'r maes.

Newidiodd y gêm a daeth dwy gôl - un i Matt Connolly o gic gornel ar ôl 68 munud ac yna ergyd isel gan Anthony Pilkington ar ôl 86 munud.

Mae Caerdydd bellach yn 19eg yn y Bencampwriaeth, gyda Wolves yn disgyn i'r 20fed safle.