'Prosiectau ynni adnewyddol yn dioddef'
Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd
- Cyhoeddwyd

"Mae'r cynnydd mewn prosiectau ynni adnewyddol yng Nghymru yn cael ei rwystro am nad oes gweledigaeth glir gan Llywodraeth y DU," medd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
"Mae 'na boeni, yn enwedig am y diffyg cefnogaeth ariannol sydd i'r diwydiant yng Nghymru," meddai Lesley Griffiths.
Mae Ms Griffiths nawr yn galw am y pwerau i gynnig cymhellion ariannol i gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Ms Griffiths ei bod am i Gymru fod yn genedl "sy'n enwog am ei hynni glân".
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Lywodraeth y DU.
Yn y dyfodol, fel rhan o Fesur Cymru, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru allu rhoi caniatâd ar gynlluniau ynni adnewyddol hyd at 350MW ond bydd y rheolaeth dros y grid sy'n dod â thrydan i'n cartrefi ynghyd â'r cymorthdaliadau a delir ar gyfer sefydlu cynlluniau newydd yn aros yn San Steffan.
Ymhlith y cynlluniau hynny mae'r taliadau a roddir i gartrefi a busnesau am osod paneli solar a thyrbinau gwynt.
"Byddai'n dda petai Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu ar faterion o'r fath," meddai Ms Griffiths.
"Mae'n hynod o rwystredig pan mae'r diwydiant yn dymuno dod i Gymru a phan ry'n ni yn ceisio annog cwmnïau i ddod yma."
Fe wnaeth Ms Griffiths gydnabod, er hynny, y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu'r sector ar ôl i'r gwrthbleidiau ei chyhuddo o ddiffyg manylion ac uchelgais wrth iddi osod ei blaenoriaethau ynni gerbron y Senedd yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd bod ei swyddogion yn gweithio ar gyflwyno targedau ar gyfer ynni adnewyddol ar hyn o bryd ac mai'r bwriad oedd eu cyhoeddi yn yr haf.
Morlyn Abertawe
Mae'r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi galw hefyd ar Lywodraeth y DU i fod yn eglur ar beth yw ei safbwynt ar forlynnoedd fel un Abertawe.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn "gefnogol iawn" o'r cynllun a'i bod yn ddyletswydd cael ateb yn y dyfodol agos.
Mae'r cynllun i adeiladu'r morlyn yn addo swyddi a buddsoddiad yn ogystal ag ynni glân am dros ganrif.
Yn ôl y datblygwyr byddai hynny'n hwb i'r economi yn ogystal â'r amgylchedd.
Ar hyn o bryd mae cwmni Tidal Lagoon Power (TLP) yn aros yn eiddgar am gasgliad ymchwiliad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Prydain ynglŷn ag ymarferoldeb y morlyn.
Yn ôl David Clubb, pennaeth Renewable UK Cymru, mae cryn ddisgwyl o fewn y diwydiant ynni adnewyddol am y cyhoeddiad a chryn ofnau ymhlith cwmnïau peirianneg arbenigol na fydd y prosiect yn digwydd.
"Dim ond unwaith mewn can mlynedd mae cyfle fel hyn yn dod," meddai.
"Mae e mor fawr â'r cynlluniau a gafwyd gan Brunel yn oes Fictoria - cynlluniau sydd dal yn weithredol heddiw.
"Rwy'n galw ar arweinyddion gwleidyddol heddiw i gael yr un weledigaeth fel y bydd ein plant a'n hwyrion yn gallu edmygu mawredd cynlluniau megis morlyn Abertawe."