Ymchwilio wedi anafiadau gwraig Scott Gibbs yn Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Yr Eidal wedi dechrau ymchwiliad i'r gwrthdrawiad achosodd anafiadau difrifol i wraig cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.
Cafodd Kate Weaver-Gibbs, 32, anafiadau i'w phen a'i hasgwrn cefn pan gafodd ei tharo gan feic modur.
Mae Ms Weaver-Gibbs yn wraig i gyn-chwaraewr Cymru, Scott Gibbs, 45. Ni chafodd ef ei anafu yn y digwyddiad.
Mae Ms Weaver-Gibbs yn parhau yn yr ysbyty ond dywedodd heddlu'r Eidal bod llawdriniaeth diweddar wedi bod yn llwyddiannus.
Roedd y cwpl yn croesi ffordd yn Verona pan gafodd ei hanafu.
Dywedodd Luigi Altamura o'r heddlu yno bod ymchwilwyr wedi defnyddio lluniau CCTV a lluniau o gamera ar fws i gasglu gwybodaeth am y digwyddiad.
Nid yw'r heddlu wedi aresio unrhyw un mewn cysylltiad â'r digwyddiad hyd yma.
Bydd adroddiad nawr yn cael ei baratoi i ynadon ei ystyried.
Priododd y cwpl yn 2014 yn Ne Affrica cyn symud i Colorado ac yna i Dde Affrica.
Chwaraeodd Gibbs 53 gwaith i Gymru ac roedd yn rhan o dair taith y Llewod cyn iddo ymddeol yn 2004.
Straeon perthnasol
- 6 Rhagfyr 2016