Ipswich 1-1 Caerdydd

Sol Bamba Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Fe wnaeth Sol Bamba ymrafael â Neil Warnock ar ôl cael ei anfon o'r cae

Bydd y gêm hon yn cael ei chofio am ymrafael rhwng amddiffynnwr Caerdydd Sol Bamba a'r rheolwr Neil Warnock ar ôl i'r amddiffynnwr gael ei anfon o'r cae mewn gêm gyfartal ar faes Portman Road.

Gunnarsson oedd prif fygythiad Caerdydd drwy gydol yr hanner cyntaf, gan daro'r postyn gyda hanner foli .

Ef roddodd yr ymwelwyr ar y blaen saith mynd cyn yr egwyl.

Ond sgoriodd Luke Varney yn fuan yn yr ail hanner i ddod â'r tîm cartref yn gyfartal wrth fanteisio ar bas Adam Webster.

Gydag 20 munud yn weddill cafodd Bamba ei anfon o'r cau yn dilyn ei ymateb i dacl, ac yna bu'n ymrafael gyda Warnock.

Ar ôl i Bamba gael ei anfon o'r cau, Caerdydd gafodd y cyfleoedd gorau i ennill .

Golygai'r canlyniad fod Caerdydd yn parhau yn y tri isaf, tra bod Ipswich yn gostwng i safle 17.