Emoji baner Cymru erbyn 2017

Fe allai delweddau emoji baneri Cymru, Yr Alban a Lloegr fod ar wahanol ddyfeisiadau erbyn y flwyddyn newydd, yn ôl y corff sy'n rheoli testun a delweddau cyfrifiaduron.
Eisoes, mae baner y DU ar gael ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiadau eraill.
Dywed Unicode, y corff sy'n rheoli testun a delweddau, eu bod yn argymell fod y baneri ar gael o 2017, ond wedyn penderfyniad y gwahanol gynhyrchwyr fydd hi os ydynt am gynnwys yr emojis ar eu hallweddellau.
Mae Unicode wedi derbyn y cynnig i gynnwys y gwahanol faneri ar ôl cynnal ymgynghoriad.
Maen nhw hefyd wedi argymell cynnwys baneri gwahanol daleithiau yr Unol Daleithiau a thiriogaethau eraill sydd ddim ar gael ar hyn o bryd.
Cafodd y cynnig am gynnwys baneri newydd ei gyflwyno gan Jeremy Burge o Emojipedia ac Owen Williams, pennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru.