Gwrthdrawiad A40 Aberhonddu: Cyhoeddi enw dynes

Llansbyddyd Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ger pentref Llansbyddyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 58 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd ar yr A40 ger Aberhonddu.

Bu farw Diana Price o Aberhonddu, oedd yn cael ei adnabod fel Diane, yn y gwrthdrawiad, rhwng car Mini du a Rover gwyrdd, ger Llansbyddyd fore Gwener.

Cafodd ddynes 21 oed ei chludo i'r ysbyty hefyd i dderbyn triniaeth yn dilyn y digwyddiad.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod, ac mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw dystion i gysylltu drwy ffonio 101.