Cyhuddo tri dyn o ymosod ar actor Y Gwyll yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig y tu allan i dafarn Rummers yn Aberystwyth
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o ymosod ar actor yng nghyfres Y Gwyll y tu allan i dafarn yn Aberystwyth.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Aneirin Hughes, sy'n chwarae rhan y prif uwcharolygydd Brian Prosser yn y ddrama dditectif, ym mis Gorffennaf eleni.
Mae dyn 52 oed wedi ei gyhuddo o ymosod wrth guro, dyn 24 oed wedi'i gyhuddo o ymosod wrth guro ac achosi niwed corfforol, a dyn 40 oed wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol a bod yn feddw ac afreolus.
Bydd y tri dyn yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ar 4 Ionawr.