Wrecsam 0-3 Macclesfield

Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Macclesfield sgorio tair gôl ar ôl yr egwyl wrth sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn Wrecsam.

Daeth yr ymwelwyr yn agos yn yr hanner cyntaf gydag ergydion Jack Mackreth a Chris Holroyd yn mynd heibio'r postyn.

Danny Rowe sgoriodd i roi Macclesfield ar y blaen, gyda Mitch Hancox yn ychwanegu'r ail yn fuan wedyn.

Danny Whittacker roddodd diwedd ar obeithion Wrecsam gyda gôl rhif tri.

Roedd yna gic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm i'r cochion ond aeth ergyd Jordan White dros y bar.

Mae Wrecsam yn aros yn safle 15 yn y Cynghrair Cenedlaethol.