Casnewydd 0-2 Stevenage

Newport County Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd yn parhau ar waelod yr Ail Adran ar ôl colli gartref yn erbyn Stevenage.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm wrth i'r amddiffynnwr Darren Jones rwydo i gôl ei hun.

Llwyddodd Stevenage i ymestyn eu mantais cyn yr hanner diolch i beniad Tom Pett.

Mae Casnewydd ar waelod yr adran gyda 17 pwynt, pwynt y tu ôl i Cheltenham.