Cyhoeddi enw dyn o'r Barri fu farw yng Nghaeredin

Ashley Hawkins Image copyright Heddlu'r Alban
Image caption Ashley Hawkins o'r Barri a fu farw mewn fflat yng Nghaeredin

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai dyn o Fro Morgannwg fu farw yn dilyn digwyddiad mewn fflat yng Nghaeredin ddydd Gwener.

Roedd Ashley Hawkins yn 32 oed, ac yn dod o'r Barri.

Cafodd ei ddarganfod yn farw mewn fflat ar Scotland Street yng Nghaeredin tua 05:30 fore Gwener.

Mae dyn 28 oed wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.

Teyrnged

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Hawkins: "Roedd yn fab, brawd ac ewythr cariadus, ac mae ein calonnau wedi eu torri.

"Roedd yn rhoi cymorth i bawb, ac yn cael ei garu yn nhre'r Barri. Fydd o fyth yn cael ei anghofio."

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Alexander o'r tîm sy'n ymchwilio i'r farwolaeth Hawkins: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac mae ein meddyliau gyda theulu Ashley.

"Rydym yn dal i gynnal ymchwiliad i farwolaeth Ashley.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth, neu a oedd yn ardal Scotland Street yn gynnar ar fore Gwener, 2 Rhagfyr, i gysylltu â ni."

Yn Llys Siryf Caeredin ddydd Llun cafodd Kieran Davies, 28 oed o'r Barri, ei gyhuddo o lofruddio Mr Hawkins.