Gleision 22-35 Ulster

Gleision Ulster Image copyright Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes y Gleision nos Sadwrn, er i'w gwrthwynebwyr fynd i lawr i 14 dyn ddwywaith yn ystod y gêm.

A llwyddodd Ulster i gipio pwynt bonws wrth sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers pedair gêm yn y PRO12.

Sgoriodd Charles Piutau, Stuart McCloskey a Kyle McCall i'r ymwelwyr yn yr hanner cynta, gyda Kristian Dacey yn tirio i'r Gleision.

Yn yr ail hanner, ychwanegodd Chris Henry a Louis Ludik at y sgorfwrdd i Ulster, a tra bod Ruan Pienaar wedi trosi pob cais.

Fe groesodd Willis Halaholo a Alex Cuthbert y llinell i'r tîm cartref, ond doedd e ddim yn ddigon i faeddu'r ymwelwyr.

Er ei fod wedi gwella o anaf i'w ysgwydd, fe fethodd capten Cymru, Sam Warburton a chwarae oherwydd salwch stumog.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daeth Nicky Robinson oddi ar y fainc i chwarae ei gêm gyntaf i'r Gleision ers 2009