Cofio 'dewrder' y Cymry fu'n brwydro yn cartref Sbaen

Rhyfel Cartref Sbaen
Image caption Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gosod torch ger y gofeb

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhoi teyrnged i'r gwirfoddolwyr o Gymru ymladdodd gyda'r Frigâd Ryngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen, ddechreuodd 80 mlynedd yn ôl.

Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal ym Mharc Cathays fore dydd Sadwrn i nodi'r achlysur.

Fe aeth tua 200 o bobl o Gymru i ymladd gyda'r llywodraeth weriniaethol yn erbyn lluoedd y Cadfridog Franco yn ail hanner y 1930au.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "anrhydedd" cael gosod torch wrth gofeb y frigâd yng Nghaerdydd, gan ei ddisgrifio fel "teyrnged i'r dynion a'r menywod dewr a roddodd eu hunain mewn perygl wrth frwydro'n erbyn ffasgiaeth".

Image copyright SOUTH WALES COALFIELD COLLECTION
Image caption Gwirfoddolwyr o Gymru oedd yn rhan o frwydr Ebro, 1938

Fe ymunodd y garfan o Gymru - traean ohonyn nhw'n löwyr - gydag rhyw 45,000 o wirfoddolwyr rhyngwladol o 54 gwlad i amddiffyn llywodraeth Sbaen rhag lluoedd Franco ym 1936.

Bu farw dros 500,000 o bobl - 33 ohonyn nhw o Gymru - dros gyfnod o dair blynedd, tua 200,000 ohonyn nhw yn yr ymladd.

Wedi ei fuddugoliaeth ym 1939, bu Franco'n unben ar Sbaen hyd at ei farwolaeth ym 1975.

"Rhaid i ni fyth anghofio dewrder ac aberth y Frigad Ryngwladol," meddai Mr Jones cyn y digwyddiad ddydd Sadwrn.