Brian Flynn yn ailymuno ag Abertawe fel sgowt

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Roedd Brian Flynn yn reolwr dros dro ar dîm Cymru am ddwy gêm yn 2010

Mae cyn-reolwr Abertawe, Brian Flynn wedi ailymuno â'r clwb fel sgowt.

Flynn oedd y rheolwr a gadwodd yr Elyrch yn y Gynghrair Bêl-droed ar ddiwrnod olaf y tymor yn 2003, ac yntau eisoes yn ffefryn gyda'r cefnogwyr o'i ddyddiau fel chwaraewr.

Ar ôl hynny, fe dreuliodd wyth mlynedd yn hyfforddwr gyda thimau ieuenctid Cymru, gan helpu i fagu talentau fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a Wayne Hennessey.

"Dw i'n gobeithio gwneud gwahaniaeth nawr wrth gynorthwyo'r clwb i ddod o hyd i chwaraewyr allai ddod mewn a gwneud argraff yn yr Uwch Gynghrair," meddai Flynn wrth drafod ei rôl newydd.