'Mae'r newid yn y gyfraith yn ffantastig'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Newid rheolau rhoi organau Cymru yn 'ffantastig'

1 Rhagfyr 2016 Diweddarwyd 07:21 GMT

Mae'r newid yn y gyfraith o roi organau yng Nghymru yn "ffantastig", meddai un ddynes sydd wedi cael dau drawsblaniad yn ystod ei bywyd.

Mae Catrin Williams-Jones yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaeerdydd.

Cafodd ei geni gyda'i dwy aren ar ochr dde ei chorff, ond roedd y ddwy yn rhy fach a doedd y naill na'r llall yn gweithio'n iawn.

Cafodd drawsblaniadau yn 1987 a 1998.