Y Gynghrair Genedlaethol: Lincoln 1-0 Wrecsam

pêl-droed

Colli wnaeth Wrecsam yn erbyn Lincoln yn y gynghrair nos Fawrth.

Fe ddaeth unig gôl y gêm i'r tîm cartref wedi 14 munud, wrth i Elliot Whitehouse ergydio i gefn y rhwyd.

Bu'n rhaid i Lincoln chwarae tri chwarter eu gêm gyda 10 dyn wedi i Sean Raggett weld y cerdyn coch, ond methu â manteisio ar hynny wnaeth y dreigiau.

Roedd hi'n gêm danllyd, gyda phump o chwaraewyr Wrecsam yn cael cerdiau melyn.