Gwrthdrawiad beic modur Sir Fynwy: Cyhoeddi enw dyn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4810 ger canolfan ddosbarthu Tesco ym Magwyr

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy fore Mawrth.

Bu farw Robert William Freeman, 35 oed o ardal Bryste, yn y gwrthdrawiad ar yr A4810 ger canolfan ddosbarthu Tesco ym Magwyr am tua 01:45.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw wrth gyrraedd yr ysbyty.

Mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i'w deulu.

Doedd 'na ddim cerbyd arall yn y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.