Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Traffic Wales

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr M4 tua'r gorllewin ger Port Talbot fore Mawrth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng BMW, Peugeot ac Audi tua 08:20.

Bu farw dynes 27 oed yn y fan a'r lle, a chafodd bachgen dyflwydd oed ei gludo i'r ysbyty.

Cafodd dyn 50 oed ei arestio ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae teulu'r wraig a'r crwner wedi eu hysbysu.

Mae heddlu'r de yn apelio ar dystion i'r gwrthrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu'n anhysbys drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 130 o 29/11/2016.