Dreigiau 27-19 Caeredin

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Angus O'Brien, ar y dde, yn dathlu ar ôl sgorio

Mae'r Dreigiau wedi sicrhau buddugoliaeth yn eu brwydr yn hanner isa'r Pro 12.

Sgoriodd y tîm o Went dri chais yn yr hanner cyntaf - Meyer, Hobbs a O'Brien yn sgorio cais yr un.

Ond bu'n rhaid iddyn nhw frwydro yn galed i ennill y gêm wrth i Gaeredin sgorio tri chais mewn ymateb i'r Dreigiau.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau yn codi i'r nawfed safle yn y gynghrair.