'Torcalon' cwpl o Ynys Môn a gollodd eu taliad fferm

Ann Roberts
Image caption Fe golllodd Ann Roberts ei thaliad oherwydd iddi roi marc yn y blwch anghywir

Mae gwraig o Ynys Môn wedi dweud wrth BBC Cymru am ei thorcalon ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod eu cais am eu taliad fferm blynyddol, oherwydd camgymeriad ar y ffurflen.

Dywedodd Ann Roberts o Fodorgan wrth raglen y Post Cyntaf bod y cyfan wedi cael effaith ddifrifol ar ei hiechyd hi a'i gŵr Tom, ar ôl iddyn nhw gael gwybod eu bod wedi colli miloedd o bunnau ddwy flynedd yn ôl.

"Mi 'oedden ni wedi bod yn rhentu tir am tua 20 mlynedd, tir at ein fferm ni. Mi wnaethon ni roi'r gorau i hynny ond mi ro'is i farc yn y blwch rong, ac wrth gwrs mi gawson ni ein cosbi am hynny," meddai Mrs Roberts.

Mae hi'n cyfaddef iddi hi wneud camgymeriad, ond bod hwnnw, meddai, yn un hollol ddiniwed.

Ar y pryd roedd hi'n dioddef o iselder ac roedd Mr Roberts wedi cael triniaeth am ganser.

Cafodd y cwpl wybod ym mis Rhagfyr 2014 nad oedden nhw am gael yr un ddimau goch, ac er iddyn nhw apelio yn erbyn y dyfarniad mi gafodd y cais ei wrthod.

"I ddweud y gwir wrthoch chi mi oeddwn i'n meddwl sut oedden ni yn mynd i fyw. Doedd gynno' ni ddim byd yn dod i mewn. Mi oedd o'n sioc ofnadwy a mi wnaeth o effeithio ar fy iechyd i a fy ngŵr," ychwanegodd.

Image caption Yr olygfa o fferm Ann Roberts yn Modorgan, Ynys Môn

Ond â hwythau bron â rhoi'r ffidil yn y to cafodd y ddau gymorth gan Mel Jones, un o swyddogion elusen amaeth yr RABI.

Roedd o wedi llwyddo i ennill apêl mewn achos tebyg i ffermwr arall rai blynyddoedd ynghynt gan ddefnyddio'r Ddeddf Gydraddoldeb.

Gan ddefnyddio'r ddeddf yma aeth Mr a Mrs Roberts i apêl am yr eildro, gan ddadlau bod y ddau mewn gwendid pan gafodd y ffurflen ei llenwi.

Fe wnaethon nhw ennill eu hachos ac yn gynharach eleni a chael eu taliad yn llawn.

Hawliau

"Mae 'na lot o ddeddfwriaeth allan yna i bobl sydd ag anableddau," meddai Mel Jones.

"Dwi ddim yn sôn am bobl sydd wedi colli braich neu goes, fedrwch chi o fod o dan driniaeth canser neu rwbath felly.

"Mae'r ddeddf yma yn rhoi hawliau i chi ar gyfer pob math o swyddi, ddim just ffermio. Dydi pobl ddim yn gwybod am eu hawliau."

Image caption Roedd cymorth Mel Jones o elusen RABI yn hanfodol i Ann Roberts a'i gŵr

Mi wnaeth y Post Cyntaf gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i gael gwybod faint o geisiadau eraill am y taliad blynyddol sydd wedi eu gwrthod yn llawn am amrywiol resymau - 84 oedd y nifer yn 2014 a 90 yn 2015.

Mae hyn yn 0.5% o'r holl geisiadau, ac yn werth tua hanner miliwn o bunnau. Does 'na ddim ystadegau ar gyfer ceisiadau 2016.

Taliadau 'prydlon'

Ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf mae Ysgrifennydd Materion Gwledig wedi pwysleisio bod mwyafrif helaeth o ffermwyr yn derbyn eu taliadau yn brydlon.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Dwi'n falch o gyhoeddi bod Cymru wedi dychwelyd i'w pherfformiad rhagorol arferol, gyda bron i 90% o ffermwyr yn derbyn eu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf.

"Mae'r perfformiad rhagorol hwn wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein bod bellach yn prosesu ceisiadau ar-lein, sydd wedi lleihau biwrocratiaeth, ac wedi caniatáu i geisiadau gael eu prosesu yn gyflym ac yn effeithiol. Ni yw'r unig wlad sy'n cynnig dull digidol cyflawn o brosesu'r ceisiadau hyn.

"Mae ein perfformiad gwych o ran taliadau hefyd wedi elwa'n fawr o weithio gyda'r undebau a'r asiantaethau ffermio, sydd wedi cynnig cymorth i nifer o ffermwyr wrth iddynt wneud eu ceisiadau.

"Rwy'n ddiolchgar iddynt, ac i ffermwyr Cymru, sydd wedi bod mor barod i ddefnyddio RPW Ar-lein ac wedi sicrhau bod y system newydd yn gymaint o lwyddiant."

Straeon perthnasol