Jones yn beirniadu May am beidio cwrdd ag arweinwyr
- Cyhoeddwyd

Dylai Theresa May fod wedi dod i gyfarfod Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddydd Gwener, yn ôl Carwyn Jones.
Cafodd sylwadau prif weinidog Cymru eu hategu gan brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, a dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi trafodaethau ym Mro Morgannwg.
Telerau ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd oedd pwnc llosg y cyfarfod.
Dywedodd Ms Sturgeon wrth BBC Cymru bod gan awdurdodau Cymru a'r Alban safbwynt "debyg iawn" ar y farchnad sengl.
Yn siarad â'r wasg ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr McGuinness bod "cyfle wedi'i fethu" yn sgil absenoldeb Ms May.
Roedd Ms Sturgeon yn cytuno, gan ddweud y "dylai'r prif weinidog fynychu fel rheol, ond yn enwedig nawr, pan fo'r materion sy'n effeithio arnym ni i gyd mor ddifrifol".
Ychwanegodd Ms Sturgeon bod "safbwyntiau llywodraethau Cymru a'r Alban yn debyg iawn, iawn o ran y safbwynt y dylen ni'i chymryd tuag at y farchnad sengl".
Dywedodd Carwyn Jones bod Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wedi "cydnabod pwysigrwydd mynediad i'r farchnad sengl a pha mor bwysig ydi hynny i holl genhedloedd yr ynysoedd hyn".
Ychwanegodd bod y Cyngor yn credu hefyd na ddylai ffin 'galed' gael ei hailsefydlu rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
"Dwi ddim yn credu ei bod hi'n ymarferol i gael rheolaeth lawn ar y ffin a chael mynediad i'r farchnad sengl ar yr un pryd," meddai Mr Jones.