Achos blacmel Abertyleri: Rheithgor yn ystyried dyfarniad

Farhan Mirza Image copyright Wales News Service

Mae'r rheithgor yn ystyried ei ddyfarniad yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o flacmel.

Mae Farhan Mirza, 38 o Abertyleri, wedi ei gyhuddo o dynnu lluniau cudd o ferched Mwslimaidd am y byddai'n codi "cywilydd" pe bai eu teuluoedd yn gweld y delweddau.

Yn ogystal, mae Mr Mirza'n wynebu cyhuddiadau o ddwyn, twyll, voyeuriaeth ac ymosodiad rhyw.

Mae'n gwadu'r cyhuddiadau.

'Hen ffrind'

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, fe ddywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn wrth y rheithgor bod Mr Mirza'n haeddu "achos teg", hyd yn oed os nad ydi'r rheithgor yn "cytuno" â'i ffordd o fyw.

Ychwanegodd nad oedd Mr Mirza wedi dewis y merched yn benodol ar gyfer y blacmel honedig, ac nad oedd wedi troseddu o'r blaen.

"Ydi Farhan Mirza yn gelwyddgi gloyw, medrus a phrofiadol yntau ydi o'n ffŵl?", gofynnodd.

Image copyright Google

Dydd Iau fe ddywedodd y diffynnydd wrth y llys mai ef oedd yn cael ei "fygwth" a nid y dioddefwyr honedig.

Dywedodd bod un o'r dioddefwyr wedi dweud celwydd "cant y cant" ar ôl iddi honni ei bod wedi dod o hyd i gannoedd o ddelweddau o ferched noeth ar gyfrifiadur Mr Mirza, gan gynnwys fideo o'i hun.

Fe ddywedodd Mr Mirza mai nid y fenyw honno oedd yn y fideo ond menyw arall sy'n "hen ffrind".

Mae Mr Mirza yn gwadu blacmel, voyeuriaeth, dwyn, twyll ac ymosodiad rhyw, ac mae'r achos yn parhau.