Galw i ariannu therapi celf yn y gyllideb iechyd

Bro Ogwr

Dylai cyllideb iechyd Llywodraeth Cymru gael ei defnyddio i ariannu rhai gweithgareddau celfyddydol, yn ôl cadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Phil George bod angen i weinidogion fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r celfyddydau i wella iechyd y genedl.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn "agored i drafodaethau pellach" am gynyddu'r defnydd o'r celfyddydau creadigol ym maes iechyd.

Yn ôl Mr George mae gwaith "rhyfeddol a chyfoethog" wedi'i sefydlu yn barod yng Nghymru, ond dywedodd y gallai'r sefyllfa wella gyda chefnogaeth y llywodraeth.

Image caption Dywedodd Phil George ei fod am weld strategaeth glir yn y maes

"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes yn cefnogi llawer o weithgareddau gan artistiaid ym maes iechyd, yn enwedig gyda chlefydau fel dementia, iechyd meddwl, a gyda chyflyrau corfforol fel Parkinsons," meddai Mr George.

"Rydyn ni am wneud yn siŵr bod gennym ni strategaeth glir sy'n cysylltu'r gwaith i gyd.

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei ystyried yn nhermau arbennig anghenion Cymru, a'i fod yn addas. Ac yn olaf, rydyn ni am wneud llawer mwy ohono.

"Os ydyn ni am wneud mwy, rhaid denu cyllid o'r gyllideb iechyd.

"Mae'n rhaid i ni berswadio gweinidogion Llywodraeth Cymru a'i swyddogion y gall buddiannau iechyd ddod o'r celfyddydau."

Mae corau dementia a dosbarthiadau dawns ar gyfer cleifion Parkinsons eisoes yn digwydd ledled Cymru, ac mae gweithgareddau creadigol, gan gynnwys celf a chrefft, yn cael eu darparu fel therapïau cymunedol i fynd i'r afael â phryder ac unigedd, ac i helpu gwella cleifion sydd wedi cael strôc.

Image caption Mae Stephanie yn mynychu sesiynau celf a chrefft ym Mro Ogwr pob wythnos

Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro sy'n trefnu gweithgareddau creadigol yn ne Cymru.

Ym Mro Ogwr mae'r elusen yn cynnal grwpiau ar gyfer pobl sydd â phryder neu sy'n dioddef o unigrwydd neu iselder, gan gynnig y cyfle i gwrdd â phobl newydd dros sesiwn celf a chrefft.

Mae Stephanie wedi teithio i'r grŵp yn wythnosol.

"Mae'r gweithgareddau yn hwylus ac yn eithaf cyffrous," meddai. "Mae'n weithgaredd sy'n rhoi rhywbeth i fi wneud, ac yn un sy'n eithaf creadigol hefyd.

"Rydyn ni'n gwneud pethau trwy'r amser, ac yn cael mynd a nhw adref."

'Atgyfnerthu hunaniaeth'

Mae Rhys Hughes, sy'n goruchwylio'r gweithgareddau, wedi gweld yr effaith ar y bobl sy'n mynychu.

"Rydyn ni'n gofalu am fentrau yn y gymuned lle gall artistiaid weithio law yn llaw ag adrannau gofal cymdeithasol, gan nodi'r bobl sy'n gallu elwa o'r cyfle i wneud gweithgaredd celfyddydol.

"Yn y bôn, ry'n ni'n cysylltu pobl gyda'u cymunedau.

"Mae'r gwaith yn atgyfnerthu eu teimlad o hunaniaeth, mae'n sicr yn gwella hunan-hyder a hunan-barch, a thros gyfnod o wythnosau rydyn ni'n gweld sut mae pobl yn ymlacio, a'r ffordd maen nhw'n llawer mwy cyfforddus ac yn llawer llai pryderus."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y gall gweithgareddau creadigol gael effaith sylweddol ar iechyd a lles, ac y gall gweithgareddau diwylliannol a chreadigol wella iechyd pobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol.

"Eisoes mae ystod amrywiol o unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn, er enghraifft y therapyddion celfyddydau, ymchwilwyr a churaduron sy'n rheoli rhaglenni celfyddydol a diwylliannol mewn ysbytai.

"Mae yna hefyd lawer o unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y gymuned i ddarparu cyfleoedd diwylliannol ar gyfer bobl gyda salwch, neu sydd angen gofal cymdeithasol hirdymor.

"Rydym yn agored i drafodaethau pellach gyda'r sector celfyddydau a diwylliant ar sut y gellid ymestyn gweithgareddau o'r fath."

Yn y Cynulliad mae grŵp trawsbleidiol hefyd yn ystyried sut i gynyddu rôl y celfyddydau ym maes iechyd a gofal.

Mae'r cadeirydd, Eluned Morgan, yn gefnogol o'r syniad ac wedi ysgrifennu at ysgrifenyddion cabinet iechyd a'r economi i ofyn iddyn nhw gomisiynu Cyngor Celfyddydau Cymru i wneud ymchwil ar y pwnc.

"Mae llawer o dystiolaeth sydd eisoes yn profi nad yw cymryd tabledi bob amser yn datrys problemau iechyd, a bod rhaid edrych ar ôl anghenion pob person," meddai.

"Mae hyn yn arbennig o berthnasol os oes gan bobl gyflyrau fel dementia.

"Mae angen i ni edrych ar sut i drosglwyddo cyllidebau, ond allwch chi ddim gwneud hynny heb dystiolaeth gref iawn.

"Mae peth o'r dystiolaeth yn bodoli'n barod, ond mae angen i ni dynnu hynny i gyd at ei gilydd i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei addasu i'r sefyllfa yma yng Nghymru."