Y Wladfa: Goleuni newydd ar hanes rhai o'r Cymry cynnar

John Daniel Evans Image copyright Jeremy Wood
Image caption John Daniel Evans oedd un o'r Cymry cyntaf yn y Wladfa

Fe fydd Llysgennad Prydain yn cyflwyno llawysgrif i amgueddfa yn y Wladfa yn ddiweddarach heddiw - llawysgrif sy'n rhoi goleuni newydd ar un o hanesion enwocaf y Cymry cynnar ym Mhatagonia.

Yn ôl yr awdur Jeremy Wood mae'r llawysgrif yn newid manylion ynglŷn â'r lleoliad lle cafodd rhai o'r Cymry cynnar oedd yn chwilio am aur eu lladd gan frodorion yn 1883.

Mae'r llawysgrif hefyd yn son sut y gwnaeth un o'r Cymry, John Daniel Evans, ddianc drwy annog ei geffyl Malacara i neidio i geunant, gorchwyl nad oedd ei elynion am geisio ei efelychu.

Mae chwedl a gorchest Malacara yn enwog yn y Wladfa a'r Ariannin.

'Prif hanesion y Wladfa'

Dywedodd Ceris Gruffudd, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru Ariannin, fod y Cymry sy'n teithio i'r Wladfa yn gyfarwydd iawn â'r hanes.

"Mae'n un o brif hanesion y Wladfa. Mae bedd y ceffyl Malacara, a'r amgueddfa fechan wrth ei ymyl yn Nhrevelin, yn fan galw i ymwelwyr â 'r gymuned Gymreig yn yr Andes."

Mae'r tŷ yn eiddo i Clery Evans, un o ddisgynyddion John Daniel Evans.

Cafodd y ddogfen wreiddiol am yr hanes ei theipio yn Gymraeg a'i llofnodi fel cofnod cywir o'r digwyddiad gan John Daniel Evans yn Rhagfyr 1938.

Image copyright Jeremy Wood
Image caption Cafodd y dogfennau eu darganfod mewn atig yn Llundain
Image copyright Jeremy Wood
Image caption Y gofeb bresennol yn Nhrevelin i'r rhai fu farw
Image copyright Lucy Taylor
Image caption Y Cymry cynnar yn cwrdd a rhai o'r bobl brodorol ym Mhatagonia

Yr awdur Jeremy Wood wnaeth 'ailddarganfod' y dogfennau ar ôl iddynt fod yn gorwedd mewn bocs mewn atig yn Llundain ers 1942.

Mr Wood yw golygydd yr ysgrifau Sbaeneg 'Lladdfa yn Nyffryn y Merthyron gan John Daniel Evans'.

Dywed Mr Wood fod y dogfennau yn dangos fod plac sy'n cofnodi'r man lle cafodd tri o'r Cymry cynnar eu lladd gan frodorion wedi ei osod yn y man anghywir.

Yn ôl yr awdur roedd yna gamgymeriadau wedi eu gwneud wrth gyfieithu'r dogfennau Cymraeg gwreiddiol i Sbaeneg, ac mai'r fersiwn Sbaeneg gafodd ei ddefnyddio i ddarganfod man i osod y plac.

Fe wnaeth Mr Wood, o Esquel, ddefnyddio'r ddogfen Gymraeg wreiddiol ynghyd â delweddau mapiau GNS i ddod o hyd i'r lleoliad cywir.

Mae Mr Wood wedi sicrhau fod fersiynau Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg ar gael "er mwyn i bawb eu mwynhau ac mae gennym nawr ddogfennau y gall pawb eu harchwilio a'u mwynhau".

"Mae copïau o'r dogfennau yn cael eu gwerthu er mwyn codi arian tuag at ein hysgol Gymraeg, yn Nhrevelin, Ysgol y Cwm," meddai.

Image copyright Isaias Grandis
Image caption Codi baneri Ariannin a Chymru y tu flaen i Ysgol y Cwm

Dywedodd Ceris Gruffudd: "Y llynedd cafodd y gofeb yn Nyffryn y Merthyron ei pheintio a'i thacluso ac er ei bod yn weddol agos i'r briffordd mae'n rhaid gwneud taith gweddol hir i'w chyrraedd oherwydd natur y tirwedd."

Erbyn hyn mae sefydliad treftadaeth Cultura Trevelin wedi gofyn am ganiatâd gan ddisgynyddion John Daniel Evans er mwyn symud y plac.