Canghellor yn cyhoeddi £400m i Gymru yn Natganiad yr Hydref

Philip Hammond Image copyright Getty Images
Image caption Y Canghellor Philip Hammond yn gadael rhif 11 Downing Street cyn y datganiad

Wrth amlinellu cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU, mae'r Canghellor Philip Hammond wedi addo £400m ychwanegol i Gymru dros bum mlynedd, o ganlyniad i wariant ar isadeiledd yn Lloegr.

Wrth gyhoeddi Datganiad yr Hydref, fe wnaeth Mr Hammond rybuddio bod yr economi yn wynebu cyfnod o ansicrwydd oherwydd Brexit.

Bydd yr economi yn tyfu yn arafach na'r disgwyl meddai, ond dywedodd bod yr economi mewn sefyllfa gymharol gref i gwrdd â heriau'r dyfodol.

Fe wnaeth hefyd gadarnhau penderfyniad i greu Cytundebau Dinesig dros y DU, gan gynnwys yn Abertawe a gogledd Cymru.

'Cynnydd sylweddol'

Cyhoeddodd nifer o fesurau gan gynnwys cynyddu'r cyflog byw o £7.20 yr awr i £7.50 erbyn Ebrill 2017.

Bydd rhagor o gefnogaeth ar gael ar gyfer gweithwyr ar gyflogau isel. Yn benodol bydd y gyfradd lle mae budd-daliadau yn cael eu tynnu oddi wrth bobl sy'n dechrau gweithio yn cael ei leihau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Datganiad yr Hydref: Dadansoddiad Arwyn Jones

Roedd nifer o gyhoeddiadau gwariant Mr Hammond yn berthnasol i Loegr yn unig, ond dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £400m dros bum mlynedd, o ganlyniad i'r gwariant ar isadeiledd dros y ffin.

Dywedodd: "Mae'r cynydd sylweddol mewn gwariant ar isadeiledd rydw i'n ei gyhoeddi yn cynrychioli cynydd sylweddol i gyllidebau drwy fformiwla Barnett..."

Fe wnaeth Mr Hammond gadarnhau hefyd y penderfyniad i sefydlu nifer o Gytundebau Dinesig newydd gan gynnwys Abertawe a gogledd Cymru, gan ddweud bod "datganoli yn parhau'n ganolog i gynllun y llywodraeth i gefnogi twf yn lleol".

Mae mesurau eraill gafodd eu cyhoeddi yn cynnwys:

  • Rhewi treth ar dannwydd am y seithfed blwyddyn yn olynol;
  • £2bn ychwanegol i'w wario ar ymchwil a datblygiad dros y DU;
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau band eang cyflym a 5G;
  • Cynyddu'r lwfans personol di-dreth i £12,500;
  • £3m o ddirwyon banciau i'w wario ar achosion da yng Nghymru, gan gynnwys £1m ar yr Ambiwlans Awyr a £2m i symud yr Amgueddfa Feddygaeth Filwrol o Aldershot i Gaerdydd.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, roedd cyhoeddiad y Canghellor yn "newyddion da i Gymru... mae'n darparu cynnydd sylweddol o £400 miliwn ar gyfer cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru".

"Mae hyn o ganlyniad i benderfyniad y Canghellor i ganolbwyntio ar isadeiledd, ac fe fydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau a fydd yn helpu pobl ar draws Cymru."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn "gwbl glir am bwysigrwydd buddsoddi yn seilwaith Cymru - yn y cyfnod ansicr sydd ohoni", gan alw ar Lywodraeth y DU "i roi hwb i fuddsoddiad er mwyn cefnogi twf economaidd".

Ychwanegodd: "Er nad yw cyhoeddiad heddiw yn mynd mor bell ag oeddem yn ei ddymuno, mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gwneud rhywfaint i adfer y toriadau a welwyd i'n cyllideb cyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf.

Beirniadaeth

Roedd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys yn feirniadol iawn o'r Canghellor. Dywedodd Jonathan Edwards: "Bydd y dirywiad sydyn yn yr economi yn cael effaith boenus ar swyddi a chyflogau pobl ac mae'r Canghellor yn wynebu twll du ariannol o £120m oherwydd y penderfyniad di-hid i roi'r gorau i'n haelodaeth o'r farchnad sengl."

Dywedodd AC UKIP, Mark Reckless, bod rhagolygon swyddi'r Canghellor ar gyfer 2020 yn rhoi diwedd ar honiadau y byddai gadael yr UE yn golygu colli 3 miliwn o swyddi, a dywedodd bod oedi cyn dechrau'r broses o adael yr UE yn "costio dros biliwn o bunnau" i'r trysorlys.

Dywedodd hefyd: "Dylwn anghofio HS2 a buddsoddi mewn mwy o gynlluniau sy'n barod i ddechrau yn y gogledd, fel sicrhau teithiau trên o 30 munud, pedair gwaith yr awr rhwng Manceinion a Lerpwl, trydaneiddio rheilffyrdd cymoedd de Cymru, a chael gwared o dollau ar y Mersi, Humber, Dartford a'r Hafren."

Wrth roi ei ymateb ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Mark Williams AS fod angen i'r datganiad fod yn "gynhyrchiol i Gymru" yn ogystal â diogelu rhag "storm Brexit".

"Mae'r cynigion sydd ar gael heddiw'n blaster briw bychan ar y sialensiau anferth sy'n wynebu teuluoedd ar hyd a lled Cymru a'r DU unwaith y bydd y llywodraeth yma, sydd â'i bryd ar Brexit caled wrth bwyso'r botwm 'gadael'," meddai.

"Rydym angen datganiad eglur a digamsyniol y byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ein bod yn parhau o fewn marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, sydd mor bwysig i ffermwyr ym mhob cwr o Gymru."