Adran 2: Casnewydd 0-1 Wycombe Wanderers

Casnewydd Wycombe Image copyright other

Collodd Casnewydd yn y munudau olaf gartref yn erbyn Wycombe Wanderers nos Fawrth.

Roedd y tîm cartref heb eu hamddiffynwr Jamie Turley wedi iddo gael llawdriniaeth ar anaf i'w ben-glin.

Serch hynny, fe lwyddodd Casnewydd i reoli'r gêm am lawer o'r chwarae, tan i Sido Jombati sgorio i Wycombe o gic rydd yn yr 88fed munud.

Er nad oedd Casnewydd wedi colli gêm ers saith gêm tan nawr, maen nhw'n parhau ar waelod tabl yr ail adran.