Bangor yn diswyddo eu rheolwr Andy Legg

Andy Legg Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi diswyddo'u rheolwr Andy Legg wedi dim ond pedwar mis gyda'r clwb.

Mae Bangor yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru ar hyn o bryd - eu dechrau gorau i'r tymor ers tro.

Ymunodd Legg gyda'r clwb yn yr haf wedi ymadawiad Neville Powell, ac ar ôl sawl tymor llwm a welodd cyn-bencampwyr Cymru yn stryffaglu tua gwaelod y tabl, roedd y cefnogwyr yn ymddangos wedi'u plesio gyda'r rheolwr newydd.

Nid felly y perchnogion newydd mae'n debyg. Mewn datganiad byr ddydd Mercher, dywedodd llefarydd:

"Oherwydd cynlluniau hir dymor gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor a'r angen am reolwr ar gytundeb parhaol, fe wnaed y penderfyniad i beidio cynnig cytundeb llawn amser [i Mr Legg].

"Fe fyddwn ni'n dechrau chwilio yn syth am reolwr llawn amser."

Ers iddo gyrraedd, mae Legg wedi arwyddo sawl enw mawr i'r clwb gan gynnwys Brayden Shaw, Daniel Nardiello, Henry Jones a Jordan Davies.

Does dim awgrym eto pwy fydd wrth y llyw ar gyfer gêm nesa' Bangor wrth i Gaerfyrddin ymweld â Nantporth ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd.

Mewn neges Twitter dywedodd Andy Legg: "Nid fi oedd y dewis i fod yn rheolwr llawn amser yn y clwb, a heddiw fe gefais fy rhyddhau o 'nyletswyddau. Dydw i ddim dicach am y penderfyniad."