Bale, Ramsey ac Allen ar restr fer tîm y flwyddyn UEFA

Allen, Bale a Ramsey Image copyright Reuters/Rex Features/Huw Evans Picture Agency

Mae Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen wedi cael eu henwi ar restr fer tîm y flwyddyn UEFA.

Roedd y tri yn allweddol i lwyddiant Cymru yn Euro 2016, ble gyrhaeddodd y garfan y rownd gyn-derfynol.

Y cyhoedd fydd yn dewis tîm y flwyddyn UEFA o restr fer o 40 o chwaraewyr.

Image copyright PA
Image caption Traed twyllodrus Robson-Kanu yn trechu Gwlad Belg yn ystod Euro 2016

Mae ymosodwr Cymru, Hal Robson-Kanu, hefyd wedi cael ei enwebu am wobr am ei gôl eiconig yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth ola'r bencampwriaeth.

Mae Gwobr Puskas, sydd wedi ei henwi ar ôl yr ymosodwr Ferenc Puskas o Hwngari, yn cael ei rhoi i sgoriwr gôl gorau'r flwyddyn.

Ymysg enillwyr y gorffennol mae Cristiano Ronaldo, Zlatan Ibrahimović a Neymar.