Cyhuddiadau ychwanegol yn achos blacmel Farhan Mirza
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o dde Cymru sydd wedi ei gyhuddo o flacmel bellach yn wynebu cyhuddiadau o ymosodiad rhyw hefyd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Farhan Mirza, 38 o Abertyleri, bellach yn wynebu dau gyhuddiad ychwanegol o ymosodiad rhywiol.
Cafodd yr honiadau eu gwneud gan dyst i'r erlyniad yn ystod yr achos.
Yn ystod ei thystiolaeth, fe wnaeth y ddynes honni bod y diffynnydd wedi cyffwrdd "yn uchel ar ei choes" heb ei chaniatâd pan oedden nhw'n eistedd ar fainc.
Mae hi hefyd wedi honni bod y diffynnydd wedi rhoi ei llaw ar ei drowsus heb ei chaniatâd pan oedden nhw'n eistedd mewn car.
Fe wnaeth Mr Mirza wadu'r ddau gyhuddiad yn y llys ddydd Llun.
Fe wnaeth y barnwr ganiatáu'r cyhuddiadau newydd yn dilyn cais gan yr erlyniad.
Mae Mr Mirza nawr yn wynebu cyhuddiadau o flacmel, voyeuriaeth, dwyn, twyll ac ymosodiad rhyw.
Mae'n gwadu pob un o'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 16 Tachwedd 2016