Mam a dau o feibion oedd ar goll wedi'u darganfod

Salli Reeves, 39 oed, a'i meibion Shaldon Morgan-Reeves, 5, ac Ellian Chapman, 13 Image copyright Heddlu Dyfed Powys

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dynes a'i dau o feibion oedd ar goll o Sir Gaerfyrddin wedi cael eu darganfod.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys apelio am wybodaeth ddydd Sadwrn i ddod o hyd Salli Reeves, 39 oed, a'i meibion Shaldon Morgan-Reeves, 5, ac Ellian Chapman, 13.

Roedden nhw wedi eu gweld ddiwethaf yn ardal Llanerch yn Llanelli am 15:00 ddydd Gwener.

Dywedodd y llu eu bod wedi cael eu darganfod yn ddiogel ac yn iach, ac fe wnaethon nhw ddiolch i'r cyhoedd am eu help.