Lluniau: Her Taith Feics Aled Hughes
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma, bu cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes yn seiclo 185 milltir o dde i ogledd Cymru i godi arian ar gyfer ymgyrch Plant Mewn Angen.
Ar hyd y daith pum diwrnod o Abertawe i Fangor bu'n galw heibio mwy na 40 o ysgolion ac yn cwrdd â chymaint o bobl â bo' modd.
Dechreuodd o stiwdio'r BBC yn Abertawe ddydd Llun, a llwyddodd i orffen yr her gan gyrraedd BBC Bangor ar ddiwrnod Plant Mewn Angen ddydd Gwener.
Mae criw wedi bod yn dilyn Aled trwy'r wythnos a dyma gasgliad o luniau o'r daith.
I gefnogi'r her gallwch gyfrannu swm o £5 drwy decstio RHOI i 70405.
Mae tecst yn costio £5 yn ychwanegol i'ch cost safonol arferol. Mi fydd yr holl gyfraniad yn mynd at BBC Plant Mewn Angen. Mae rhaid bod yn 16 neu hŷn a chofiwch ofyn caniatâd yr hwn sy'n talu'r bil. Darllenwch y telerau ac amodau llawn.