Cytuno i sefydlu tasglu cynllun £8bn Morlyn Caerdydd
Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi cytuno i sefydlu tasglu i ystyried cynlluniau ar gyfer morlyn gwerth £8bn fyddai'n creu ynni o'r llanw ym Mae Caerdydd.
Mae wedi ei ddisgrifio fel "cyfle economaidd ar raddfa Olympaidd" ar gyfer y rhanbarth, ond fe allai hi gymryd blynyddoedd i gynlluniau manwl gael eu cyflwyno.
Ond dywedodd sawl cynghorydd bod angen bod yn bwyllog wrth ddelio gyda'r cynllun.
Clywodd cabinet Cyngor Caerdydd y gallai'r cynllun gan gwmni Tidal Lagoon Power gyflenwi trydan i holl gartrefi Cymru.
Mae'r datblygwyr, Tidal Lagoon Power, yn aros i glywed casgliadau ymchwiliad annibynnol ynglŷn ag ymarferoldeb eu huchelgais.
Yn y cyfarfod ddydd Llun roedd Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Gweithrediadau y cyngor wedi argymell sefydlu tasglu er mwyn cael barn arbenigol annibynnol ar y cynllun.
Dywedodd: "Mae'r cyngor angen gwybodaeth ar feysydd o'r fath er mwyn delio â phrosiect mor fawr."
'Arwyddocâd rhyngwladol'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Phil Bale, y byddai'n ddoeth aros am ganlyniad adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU ar gynlluniau o'r fath cyn symud ymlaen.
Ond ychwanegodd fod y morlyn yn "brosiect isadeiledd sydd ag arwyddocâd rhyngwladol".
"Gallai cynllun o'r raddfa hon gynnig nifer o gyfleoedd, creu miloedd o swyddi, cynnig ynni carbon isel a gwella ein dewisiadau adfywio," meddai.
"Heb os, gallai fod yn gynllun cyffrous dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyfan. Fodd bynnag, gallai godi materion amgylcheddol y bydd angen eu hasesu'n ofalus."
Dywedodd y Cynghorydd Paul Mitchell, cadeirydd Pwyllgor Amgylcheddol y Cyngor, y byddai angen edrych yn ofalus ar fanylder y cynllun a'r hyn y byddai'n ei olygu i foryd yr afon Hafren.
"Mae 'na lot i ni ei ystyried, mae'n gynnar eto ond mae 'na ddyletswydd arnon ni sicrhau bod y buddiannau economaidd yn eu lle a hefyd y goblygiadau amgylcheddol yn cael eu hastudio'n drylwyr."
Symud yn rhy araf
Un o'r rhai cynta' i wrthwynebu yw grŵp Cyfeillion y Ddaear Barri a'r Fro, sy'n poeni am effaith codi'r lagŵn ar gynefinoedd adar a bywyd gwyllt.
Dywedodd Keith Stockdale o'r grŵp wrth BBC Cymru eu bod hefyd yn bryderus y byddai'r morlyn yn llenwi a thywod, gan amharu ar lefel yr ocsigen yn y dŵr.
Mae e o'r farn y bydd y morlyn yn cymryd rhy hir i'w adeiladu a bod angen blaenoriaethu prosiectau adnewyddadwy arall.
"Ry'n ni'n gorfod aros blynyddoedd am y pethau yma - ond mae angen arnon ni weithredu ar frys i fynd i'r afael a'r bygythiad sy'n dod yn sgil newid hinsawdd," meddai.
Mae Tidal Lagoon Power yn honni na fydd y Deyrnas Unedig yn llwyddo i gyrraedd targedau ynglŷn â gostwng allyriadau carbon a thaclo newid hinsawdd os na fydd yna benderfyniad i fwrw ati â'u morlynnoedd.
Maen nhw'n addo gwario miliynau ar "wella'r amgylchedd" o amgylch bob lagŵn.