Y cyn-Archdderwydd Robyn Léwis wedi marw yn 89 oed

robyn lewis Image copyright Wales News Service
Image caption Bu Robyn Léwis yn Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2003 a 2006

Mae'r cyn-Archdderwydd Robyn Léwis wedi marw yn 89 oed.

Roedd wedi treulio cyfnod mewn cartref gofal yn Nefyn, a bu farw ddydd Llun.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, fe dderbyniodd Mr Léwis ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn cymhwyso fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bu'n weithgar o fewn y Blaid Lafur ar ddechrau ei yrfa, gan sefyll fel ymgeisydd seneddol yn Ninbych yn etholiad cyffredinol 1955.

Yn ystod yr 1960au fe adawodd Robyn Léwis y Blaid Lafur ac ymuno â Phlaid Cymru.

Fe gafodd ei ethol ar gyngor ardal Llŷn, ac ef oedd ymgeisydd y blaid yn ardal Caernarfon yn etholiad 1970, pan ddaeth yn ail gyda 33% o'r bleidlais.

Bu hefyd yn is-lywydd i'r blaid.

Image copyright Wales News Service
Image caption Ei enw barddol oedd 'Robyn Llŷn'

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw 1980, gyda'i gyfrol Esgid yn Gwasgu.

Yn 2002, Mr Léwis oedd enillydd cyntaf y Fedal Ryddiaith i gael ei ethol yn Archdderwydd.

Ei enw barddol oedd 'Robin Llŷn'.

Roedd yn gyfrannydd cyson i'r wasg Gymreig, ac yn gweld ei hun yn y penawdau o dro i dro.

Yn 2006 fe ymddiswyddodd o Blaid Cymru fel protest yn erbyn penderfyniad Elinor Bennett - gwraig arweinydd y blaid, Dafydd Wigley - i dderbyn anrhydedd yr OBE gan y Frenhines.

Yn 2012 cafodd yr heddlu eu galw i siop ym Mhwllheli ar ôl i Mr Léwis wrthod talu wedi i aelod o'r staff yno wrthod rhoi'r bil yn Gymraeg.

'Cymeriad lliwgar'

Wrth dalu teyrnged iddo ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru dywedodd cyn-AS Plaid Cymru, Elfyn Llwyd fod Mr Léwis yn "un o Gymry solat y ganrif ddiwetha'".

"Mi wnaeth o job aruthrol o fawr o ran y geiriaduron Cymraeg, termau'r gyfraith ac yn y blaen," meddai. "Roedd o'n awdur toreithiog iawn."

"Roedd o'n Archdderwydd arbennig o effeithiol, ond hefyd yn berson ychydig yn ecsentrig, a dwi'n deud hynny efo gwen ar fy wyneb... roedd eleni'n achlysur trist iawn i mi yn Eisteddfod Llanrwst, am mai dyna'r tro cyntaf i mi gofio peidio'i weld o yn yr Orsedd."

Ychwanegodd Mr Llwyd: "Mi oedd ganddo fo hiwmor bachog... fe fydd 'na fwlch mawr ar ei ôl o mewn sawl maes."

Mewn datganiad dywedodd Gorsedd y Beirdd fod Robin Llŷn yn "gymeriad lliwgar a pharod ei farn, ac fe fyddwn yn gweld ei eisiau yng Ngorsedd y Beirdd ac ar lwyfan y Brifwyl".

"Roedd ei feddwl yn graff ac yn finiog, a'i gyngor yn ddoeth ac yn werth ei gael. Roedd ei arbenigedd ar fyd y gyfraith yn gaffaeliad mawr i'r Orsedd, ac roedd ganddo allu ardderchog i drin geiriau.

"Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ac yn cofio am ei gyfraniad arbennig i fyd llenyddiaeth yma yng Nghymru ac i'r Orsedd a'i gwaith."

Ychwanegodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod yn "drist iawn" i glywed am ei farwolaeth.

"Diolch iddo am ei gyfraniad oes, ac anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at y teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."