Carchar i ddyn am dreisio merch yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd yr ymosodiad oddi ar un o brif strydoedd Caerdydd
Mae dyn wedi cael dedfryd o bum mlynedd a hanner yn y carchar am dreisio myfyrwraig ger un o brif strydoedd Caerdydd ym Mis Medi.
Fe ddilynodd Aymen Smaili, 35, y ddynes wrth iddi adael clwb nos a'i threisio ar stryd gefn oddi ar Heol y Frenhines.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi targedu dynes oedd mewn sefyllfa "fregus".
Roedd Smaili wedi pledio'n euog i'w threisio.
Bydd yn gorfod treulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo a chofrestru fel troseddwr rhyw.
Ffynhonnell y llun, Lewis Clarke
Cafodd Smaili ei ddefrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun