Iechyd meddwl: Cadw pobl mewn celloedd yn 'beryglus'

Cell heddlu

Mae angen rhoi diwedd ar y defnydd o gelloedd heddlu fel "lleoedd diogel" ar gyfer pobl mewn argyfwng iechyd meddwl, yn ôl elusen Mind Cymru.

Daw galwad yr elusen wedi i ffigyrau Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar Iechyd Meddwl ddangos bod rhai lluoedd yn parhau i roi pobl sy'n cael trafferthion mewn celloedd.

Heddlu De Cymru sydd wedi gwneud hynny y nifer fwyaf o weithiau o'r lluoedd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod "cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud gan yr heddlu a phartneriaid iechyd", gan gyfaddef fodd bynnag bod "rhagor o waith i'w wneud".

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael, nad problem blismona yn unig oedd hi ond "problem i wasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd".

Gwahaniaethau lleol

Mae canran y bobl sy'n cael eu cadw o dan adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl a sy'n cael eu rhoi mewn celloedd yn uchel mewn tri o heddluoedd Cymru.

Yn ardal Heddlu Gwent, mae'r ffigwr yn 30% - yr ail uchaf yn y DU. Mae Heddlu De Cymru yn drydydd ar 27% a Heddlu Gwent yn bedwerydd ar 23%.

Er hynny, roedd gostyngiad yn nifer y bobl fregus gafodd eu cadw mewn celloedd yn 2015/16.

Fe ddigwyddodd hynny ar 336 achlysur yn ystod y cyfnod hwnnw, o'i gymharu â 541 y flwyddyn flaenorol.

Mae Mind Cymru yn dweud bod gwahaniaeth mawr o lu i lu, gyda rhai yn cadw pobl mewn celloedd ar "gannoedd o achlysuron".

Image caption Mae Sara Moseley o Mind Cymru'n galw am fwy o "gefnogaeth a thosturi"

Mae'r Mesur Plismona a Throsedd sy'n gwneud ei ffordd trwy Dŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd yn dod â'r arfer o ddefnyddio celloedd fel "lleoedd diogel" ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed i ben, ond mae Mind yn galw i ymestyn hyn i oedolion hefyd.

Dywedodd yr elusen nad yw celloedd yn le addas i bobl sy'n dioddef gydag argyfwng iechyd meddwl, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd unrhyw ddefnydd ohonynt yn y modd yma.

Dywedodd cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley: "Pan dy'ch chi mewn argyfwng iechyd meddwl, gallwch fod yn rhwystredig ac ofnus.

"Gall eich ymddygiad ymddangos yn ymosodol a bygythiol, ond yr hyn sydd angen arnoch ydi cefnogaeth a thosturi.

"Mae cael eich cadw mewn cell heddlu a'ch trin, i bob pwrpas, fel troseddwr yn gwneud pethau'n waeth. Nawr yw'r amser i wahardd yr arferiad peryglus yma unwaith ac am byth."

Cydweithio

Yn ôl Alun Michael, mae'n rhaid i'r heddlu gydweithio gydag asiantaethau eraill i ddod â'r arferiad i ben.

"Yn rhy aml mae pobl yn canfod eu hunain mewn swyddfa heddlu neu mewn cell am nad oes unrhyw le arall ar gael sydd yn saff neu ble mae modd cael triniaeth yn ystod cyfnod o argyfwng," meddai.

"Rydw i a fy nhîm yn gweithio gyda swyddogion gweithredol a'r Gwasanaeth Iechyd i newid y sefyllfa honno, ond mae angen bod yn ofalus achos mae tipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn ni fod yn hapus â'r sefyllfa yng Nghaerdydd a gweddill De Cymru."

Nifer yr achlysuron y cafodd celloedd eu defnyddio fel "lleoedd diogel" ar gyfer pobl mewn argyfwng iechyd meddwl:

  • Heddlu De Cymru - 192
  • Heddlu Gwent - 81
  • Heddlu Dyfed Powys - 53
  • Heddlu Gogledd Cymru - 10
Image copyright PA

Dim ond dau lu yn y DU oedd heb gadw pobl sy'n cael trafferthion iechyd meddwl mewn celloedd ar unrhyw achlysur - Glannau Mersi a Hertfordshire - ac mae Mind Cymru am weld lluoedd eraill yn dilyn eu hesiampl.

"Os yw lluoedd heddlu Glannau Mersi a Hertfordshire yn gallu osgoi cadw pobl fregus mewn celloedd heddlu, gall bob llu arall wneud hefyd, gan gynnwys yma yng Nghymru," meddai Ms Moseley.

"Yn hytrach na chadw pobl mewn celloedd, mae hi'n llawer gwell cymryd rhywun i rywle addas fel ysbyty.

"Ry'n ni'n gwybod nad yw lleoedd diogel mewn sefydliadau iechyd ar gael pobl tro ar hyn o bryd, ond mae adnoddau yn cael eu darparu i roi hyn ar waith."

'Gofal tosturiol'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y rheiny sydd yn dioddef o argyfwng iechyd meddwl yn cael gofal tosturiol - a bod neb yn cael eu cadw mewn cell pan nad ydyn nhw wedi troseddu a'u bod yno dim ond oherwydd nad oes unrhyw le saff arall iddynt.

"Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud gan yr heddlu a phartneriaid iechyd wrth haneru'r defnydd o gelloedd heddlu ar gyfer y rheiny sydd yn dioddef o argyfwng iechyd meddwl dros y flwyddyn diwethaf. Ond mae rhagor o waith i'w wneud.

"Fe fydd newidiadau i ddeddfwriaeth drwy'r Mesur Plismona a Throsedd yn gwahardd y defnydd o gelloedd heddlu i bobl dan 18 sydd yn dioddef o argyfwng iechyd meddwl, gan sicrhau y gallen nhw ond gael eu defnyddio fel man diogel i oedolion mewn amgylchiadau gwirioneddol arbennig."

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan heddluoedd Gwent, Dyfed Powys a Gogledd Cymru.