Brexit: 'Angen creadigrwydd' i gael barn y bobl

Glyn Davies
Image caption Glyn Davies, aelod Ceidwadol o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn siarad gyda phobl yng Nglyn Ebwy

Mae angen i wleidyddion feddwl yn fwy creadigol am sut i fynd at gymunedau Cymru i glywed eu barn am Brexit, medd David Davies AS.

Daeth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i gwrdd yng Nglyn Ebwy ddydd Llun er mwyn ceisio deall beth yw blaenoriaethau'r gymuned wedi'r bleidlais yn y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth 62% o boblogaeth Glyn Ebwy bleidleisio dros adael - y ganran uchaf yng Nghymru - er bod mewnfudo i'r ardal yn fach ac maen nhw wedi derbyn miliynau o bunnoedd o gyllid o Frwsel.

Daeth tua 35 o'r trigolion i gwrdd â'r aelodau seneddol i son am eu pryderon, ac i drafod effaith Brexit ar dde Cymru.

Y prif bynciau dan sylw yn y sesiwn anffurfiol oedd yr effaith ar swyddi, cyllid, diwydiant, y celfyddydau a'r iaith Gymraeg.

Fe ddaeth i'r amlwg mai'r pryder mwyaf oedd symudiad rhydd pobl, gyda chryfhau datganoli yn ail. Gobaith y pwyllgor yw cyflwyno'r farn fydd yn cael ei gasglu ar draws Cymru i lywodraeth y DU.

Cadeirydd y pwyllgor yw Aelod Seneddol Mynwy, David Davies, a dywedodd bod sawl barn anodd am adael yr UE o hyd, ond nad oedd wedi ei synnu gyda'r hyn a glywodd.

Wrth gydnabod nad oedd y gynrychiolaeth o bobl leol "yn berffaith" - roedd nifer yno o blaid aros yn yr UE ac wedi dod o'r tu allan i'r dre - dywedodd bod angen i'r pwyllgor fod yn fwy creadigol i gael pobl i ddod i'r cyfarfodydd.

"Roedden ni'n trafod yn gynharach y posibilrwydd o fynd i farchnadoedd i siarad gyda phobl," meddai, "oherwydd mae'n anodd estyn llaw at ran o'r boblogaeth sy'n teimlo efallai nad ydyn nhw wedi cael eu clywed ers tro, ac yn teimlo os fyddan nhw'n dod i gyfarfod fel hyn na fyddan nhw'n cael eu clywed eto.

"Gallaf ddweud yn onest ein bod yn gwrando ar bawb, ac yn gwrando ar bobl gydag amrywiaeth eang iawn o farn."

Mae Glyn Ebwy wedi derbyn rhai o'r taliadau mwyaf am fuddsoddiad o Ewrop nag unman arall yn Ewrop o dan gynllun oedd yn ceisio lleihau gwahaniaeth economaidd rhwng rhanbarthau o Ewrop.

Dywedodd Cyngor Sir Blaenau Gwent eu bod wedi derbyn £140m mewn arian o Ewrop dros y 15 mlynedd diwethaf.