Cyn-bencampwraig bocsio yn gwella yn yr ysbyty

Bocsio Image copyright Wales News Service

Mae cyn-bencampwraig bocsio yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cwympo lawr y grisiau mewn damwain ddifrifol.

Fe dorrodd Rachael Buckland, sydd yn 25 oed, ei phenglog ac fe gafodd waedlif ar yr ymennydd ar ôl taro ei phen ar y llawr.

Fe wnaeth y meddygon yn fwriadol ei rhoi mewn coma ar ôl iddi gael llawdriniaeth ar yr ymennydd. Ond mae hi bellach yn "effro ac yn gallu adnabod pobl" meddai ei chyn hyfforddwr, Tony Borg.

Mae Mrs Buckland, sydd yn wreiddiol o Fagwyr yn Sir Fynwy, yn gyn-bencampwraig pwysau bantam Cymru, ond fe gymrodd amser i ffwrdd o'r gamp ar ôl cael ei phlant.

Mae ei gŵr Mitchell Buckland hefyd yn focsiwr proffesiynol ac mae ffrindiau wedi codi £6,500 ar gyfer y teulu trwy gynnal digwyddiadau a gweithgareddau.