Miloedd wedi tyrru i gemau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae miloedd o bobl wedi tyrru i Gaerdydd ddydd Sadwrn, wrth i'r brifddinas gynnal digwyddiadau chwaraeon o bwys.
Mae nifer o ffyrdd ar gau yn y ddinas ar gyfer gemau'r timau rygbi a phêl-droed cenedlaethol.
Ariannin oedd yr ymwelwyr yn y rygbi, gyda'r gic gyntaf yn Stadiwm Principality yng nghanol y ddinas am 17:30.
Draw yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45, roedd y pêl-droedwyr yn wynebu Serbia.
Pa ffyrdd fydd ar gau?
- Rhwng 15:30 a 20:30, mae'r ffyrdd canlynol ar gau: Heol y Porth, Heol y Parc, Heol Scott.
- Mae'r ffyrdd canlynol ar gau ers 19:00: Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Castell, Heol y Dug, Stryd Wood, Heol Eglwys Fair.
Ynghŷd â'r prysurdeb ar y ffyrdd, mae disgwyl i'r trenau fod yn brysur, yn enwedig ar ôl y digwyddiadau.
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd system ciwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog gyda chiwiau o hyd at ddwy awr.
Mae gorsaf Heol y Frenhines ar gau ers 18:45.