Bywyd wedi bybl bae Caerdydd

Yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai fe welwyd wynebau newydd yn cael eu hethol ag eraill yn colli eu seddi. Y Democratiaid Rhyddfrydol gafodd yr ergyd fwyaf, gyda phob un o'r aelodau cynulliad heblaw'r arweinydd yn colli sedd, eu canlyniad gwaethaf erioed ym Mae Caerdydd.

Un ohonyn nhw oedd Aled Roberts.

Felly sut mae bywyd wedi newid i'r dyn o Rosllanerchrugog a sut mae rhywun yn ymdopi ar ôl cael gwybod ei ffawd?

"Oedd o ddim yn sioc a deud y gwir. Oedd canlyniadau'r etholiad cyffredinol y flwyddyn cynt wedi rhoi ryw fath o syniad i fi ynglŷn â'r sefyllfa.

"Dw i'n meddwl yn emosiynol o'n i wedi paratoi fy hun ond yn amlwg mae o dal yn siom ar y noson."

Mynd adref i'w wely wnaeth Aled Roberts ar ôl gweld yn y cyfri bod pethau ddim yn edrych yn dda.

"Diwrnod wedyn o'n i yn cael lot o alwadau ffôn ac e-byst a phethe, yn amlwg pobl yn cydymdeimlo i ryw raddau. Dw i'n meddwl bod hynny wedi cadw fi yn brysur am ddeuddydd neu ddau."

'7 diwrnod yr wythnos'

Fe effeithiodd ei gyfnod ym Mae Caerdydd arno mewn ffyrdd annisgwyl meddai. "Mae'r ffaith bod chi yn byw ar ben eich hun yn neud chi yn berson mwy hunanol.

"Mae'n anoddach ar adegau i weld safbwyntiau pobl eraill, i lawr i bethau bach fel gorfod rhoi fyny efo aelodau eraill o'r teulu yn penderfynu pa sianel teledu chi'n gwylio, pethe reit hurt rili."

Mi oedd o i ffwrdd o adref am bedwar diwrnod ond roedd hi'n job saith diwrnod yr wythnos.

Mae'n disgrifio bywyd gwleidydd fel un "eithaf rhyfedd" ac yn dweud bod yna gyfnodau pan fyddai yn mynd yn ôl i'w fflat yng Nghaerdydd ddiwedd diwrnod ac yn "byta 'meal for one' o Tesco."

Roedd pobl yn ei gymuned yn help i gadw ei draed ar y ddaear pan oedd o yn y Cynulliad a hefyd yr wythnosau cyntaf pan gollodd ei sedd.

"Odd yr ymdeimlad 'na bod chi yn holl bwysig, sydd yn beryg dw i meddwl pan chi'n cael eich ethol i unrhyw Senedd, cafodd hynny ei chwalu o fewn pythefnos," meddai.

"A nes i ffindio allan mai'r bobl oedd wastad wedi bod wrth fy ymyl i oedd y bobl fwyaf pwysig, bydded hynny yn deulu, cyfeillion, pobl leol, neu aelodau capel. Dw i'n meddwl bod hynny wedi dylanwadu'r ffordd nes i edrych arno fo.

"Mae'n swnio braidd yn 'cheesy' ond fe wnaeth hynny wahaniaeth i fi."

Ar ôl rhoi'r gorau i deithio lawr ar y trên i'r brifddinas bob wythnos mae o wedi sylweddoli cymaint o'r bywyd teuluol mae o wedi colli ac yn dweud fod ei wraig yn 'rhiant sengl i ryw raddau.'

Amser efo'r teulu

"Dw i wedi sylweddoli pethau bach fel hyd yn oed cymryd y mab 'fenga i ymarferion pêl-droed a phethau felly ers mis Mai.

"Odd o yn dair oed pan ges i'n ethol yn arweinydd cyngor. Mae'n debyg bod yna berthnasau, mae 'na rheini yn deud wrtha chi ar y pryd, 'Wel bydda yn ofalus achos ti ddim yn cael yr amser yma eto.'

"I ryw raddau chi yn cymryd sylw o hynny ond hwyrach ddim yn deall yn union beth maen nhw yn awgrymu. Ond dwi'n dechrau gweld yn union beth maen nhw yn awgrymu rŵan wrth fwynhau y pedwar neu bum mis olaf.

"Dw i wedi gallu gwneud pethau efo fy nheulu dw i ddim wedi gallu gwneud ers peth amser."

Heblaw am dreulio amser efo'i fab mae o wedi bod ar wyliau ond ers mis Medi mae wedi bod yn chwilio am waith mwy parhaol.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio rhan amser fel ymgynghorydd addysg ac yn brysur yn aelodau o fyrddau gwahanol fel theatr y Stiwt, cadeirydd ysgol gynradd y pentref a llywodraethwr yr ysgol uwchradd.

Ei wraig sydd yn dod a'r prif gyflog i mewn sydd yn golygu bod nhw fel teulu wedi gorfod bod yn fwy gofalus gyda'i gwariant.

Y newid arall mae'n cyfaddef yw'r diffyg dylanwad sydd ganddo i newid pethau a'r diffyg gwahoddiadau sydd yn cyrraedd ei ddrws bellach.

Gwleidyddiaeth peryglus

Dywedodd: "Os dw i'n ffonio ar ran rhywun erbyn hyn dw i'n union yr un sefyllfa a'r person yna. Yr unig beth mae'n debyg ydy mod i dal yn deall sut mae'r prosesau a'r systemau yn gweithio, dw i'n gwybod pwy i gysylltu efo nhw.

"Yr unig wahaniaeth ydy bod y derbyniad yr ochr arall ddim mor gyflym â beth fysa fo wedi bod cynt. Ond dyna fo, dw i wedi arfer efo hynny."

Er hynny dydy o ddim yn siŵr os ydy o eisiau camu yn ôl i'r bybl gwleidyddol. Mae Brexit meddai ac ethol Donald Trump fel arlywydd America wedi ei ddigalonni.

"Dw i'n teimlo bod gwleidyddiaeth mewn sefyllfa eithaf peryglus ar hyn o bryd. Mae pobl fel bod nhw wedi pleidleisio dros bleidiau sydd yn dweud bod 'na atebion poblogaidd i bob peth lle does 'na ddim, amser a ddengys os ydy hynny yn newid."

"Felly dw i ddim yn siŵr iawn o le da ni yn mynd fel cenedl yng Nghymru. Dw i'n gweld materion sydd ddim yn cael eu taclo yn y Cynulliad. Mae'r un drafodaeth yn cymryd lle rŵan ag oedd yna bum mlynedd a hanner yn ôl pan es i yno gyntaf. Siom efo gwleidyddiaeth yw'r peth mwyaf fydd rhaid i fi ddod drosto fo yn y lle cyntaf," meddai.

Ond mae'n dweud bod ei berthynas gyda'i deulu wedi cryfhau.

"Yn bendant dw i'n meddwl bod Llinos a'r meibion yn hapusach, bod ni yn gweithredu fel teulu unwaith eto i ryw raddau.

"Mae'r ffaith mod i yn gallu bod adre rhan fwya o nosweithiau yn newid byd rili. Mae'r ffordd 'da ni yn gweithredu fel uned yn llawer iawn haws. Y gobaith ydy byddan nhw yn teimlo'r un fath ar ôl blwyddyn o hyn!"