Warburton, Jones a Williams yn ôl i herio Ariannin

Jones, Williams, Warburton Image copyright Getty Images

Mae Sam Warburton, Alun Wyn Jones a Liam Williams yn dychwelyd i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ariannin yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Mae'r canolwr Jamie Roberts yn colli ei le yn y tîm, gyda Scott Williams a Jonathan Davies yn dechrau.

Fe fethodd Warburton a Williams y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn diwethaf gydag anafiadau, a doedd Jones ddim ar gael yn dilyn marwolaeth ei dad.

Mae'r tîm hyfforddi wedi gwneud chwe newid i'r tîm gafodd eu trechu gan y Wallabies.

Tomas Francis fydd yn dechrau fel prop pen tynn, tra bo'r mewnwr Gareth Davies yn cymryd lle Rhys Webb, sydd wedi'i anafu.

Jenkins yn gapten

Gethin Jenkins fydd yn parhau fel capten, er bod y capten arferol, Warburton yn dychwelyd.

Dywedodd yr hyfforddwr dros dro, Rob Howley bod hyn i roi cyfle i Warburton ganolbwyntio ar ei gêm ei hun ar ôl ei anafiadau.

Bydd Jenkins yn torri'r record am y mwyaf o gapiau rhyngwladol i chwaraewr rheng-flaen ddydd Sadwrn.

Fe fydd yn ennill ei 128ain cap dros Gymru, a gyda phum cap gyda'r Llewod, bydd yn pasio record Keven Mealamu o Seland Newydd ar 132 cap rhyngwladol.

Bydd y maswr Dan Biggar hefyd yn gwneud ei 50fed ymddangosiad dros ei wlad hefyd.

Image copyright Getty Images
Image caption Dydi Jamie Roberts ddim wedi gwneud ymddangosiad oddi ar y fainc i Gymru ers 2009

Cymru v Ariannin

Cymru: Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins (capten), Ken Owens, Tomas Francis, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Cory Hill, James King, Lloyd Williams, Gareth Anscombe, Jamie Roberts.

Ariannin: Joaquin Tuculet; Matias Moroni, Matias Orlando, Juan Martin Hernandez, Ramiro Moyano; Nicolas Sanchez, Martin Landajo; Lucas Noguera, Agustin Creevy (capten), Ramiro Herrera, Guido Petti, Matias Alemanno, Pablo Matera, Javier Ortega Desio, Facundo Isa.

Eilyddion: Julian Montoya, Santiago Garcia Botta, Enrique Pieretto, Leonardo Senatore, Tomas Lezana, Tomas Cubelli, Santiago Gonzalez Iglesias, Santiago Cordero.