Yr ifanc a ŵyr a'r hen a dybia

Dydw i ddim yn gwybod pwy sy'n penderfynu pryd mae cenhedlaeth yn dechrau a diweddu na phwy sy'n eu henwi nhw. Ta beth, mae labeli fel 'Millenial', 'Gen X' a'u tebyg yn bethau digon handi wrth drafod gwleidyddiaeth.

Go brin fod un ohonyn nhw'n bwysicach na'r 'baby boomers', y llwyth o fabis a anwyd rhwng 1945 a 1964 - y genhedlaeth rwy'n aelod ohoni. Cenhedlaeth secs, drygs a roc and rol yw'r bwmers, plant oedd yn siomi ei rhieni gyda'u rhyddfrydiaeth gymdeithasol. Ond hon hefyd yw cenhedlaeth Brecsit a Trump, cenhedlaeth sydd ddwywaith eleni wedi pleidleisio yn erbyn y byd allblyg, rhyddfrydol a grëwyd ganddynt.

Beth felly sydd wedi digwydd i'r genhedlaeth honno? Oes 'na ryw newid sylfaenol wedi bod yn eu safbwyntiau gwleidyddol? Mae hynny'n annhebyg.

Does dim llawer o sail ystadegol i'r ystrydeb bod pobl yn symud i'r dde wrth heneiddio. Ar y cyfan mae'n safbwyntiau gwleidyddol yn cael eu ffurfio yn ein hieuenctid ac yn parhau'n gymharol ddigyfnewid trwy'n bywydau.

Yr hyn sydd wedi digwydd, yn fy marn i, yw ein bod wedi cymryd bod y bwmers hynny wnaeth dderbyn addysg brifysgol, canran bychan iawn o'r cyfan, yn gynrychiadol o'r genhedlaeth gyfan.

Yn wir mae modd dadlau mai addysg nid oedran sy'n bennaf gyfrifol am lwyddiant Brecsit a Trump. Yn y ddau achos mae'r gefnogaeth gryfaf i'r ochr fuddugol wedi dod o bobl gwynion heb radd coleg ac mae 'na lawer mwy o'r rheiny ymhlith y bwmers na'r cenedlaethau mwy diweddar. 4% o bobl ifanc oedd yn mynd i goleg ar ddechrau'r 1960au. Erbyn hyn mae oddeutu hanner ein pobl ifanc yn parhau mewn addysg ar ôl gadel ysgol.

Wrth gwrs, dyw bod yn llai dysgedig ddim yn gyfystyr a bod yn llai galluog. Nid diffyg gallu oedd y rheswm am y niferoedd isel oedd yn derbyn addysg brifysgol yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Serch hynny, mae'r patrwm yn un trawiadol ac yn arwydd efallai y bydd y pendil yn symud eto wrth i rym gwleidyddol y bwmers ddisbyddu dros y ddegawd neu ddwy nesaf.