Teulu bachgen anabl yn ennill achos treth stafell wely
- Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen anabl o Sir Benfro wedi ennill achos yn y Goruchaf Lys ar ôl i farnwr benderfynu bod y 'dreth stafell wely' yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Mae'r newid polisi yn golygu bod tenantiaid tai cymdeithasol wedi cael toriad o 14% i'w budd-dal tai os oes llofftydd sbâr ganddynt.
Roedd Paul a Susan Rutherford wedi herio'r toriad, gan ddadlau bod llofft sbâr yn eu cartref i ofalwyr dros nos i'w hŵyr anabl.
Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau bod arian wedi ei roi i gynghorau i wneud taliadau dewisol i bobl welodd effaith negyddol o'r newid mewn polisi.
Gwrthod apêl
Dywedodd Mr a Mrs Rutherford bod y llofft sbâr yn hanfodol i ofalu am Warren, sy'n dioddef o afiechyd genetig prin.
Dadl y cwpl oedd bod angen y llofft i nyrs sy'n gofalu am Warren dros nos, a bod y polisi yn mynd yn erbyn eu hawliau.
Roedd llys wedi dyfarnu o blaid Mr a Mrs Rutherford ym mis Ionawr, a dydd Mercher, penderfynodd y Goruchaf Lys i wrthod apêl gan Lywodraeth y DU a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae Cyngor Sir Penfro yn darparu taliadau i leihau effaith y polisi ar y teulu, ond roedd Mr a Mrs Rutherford yn dadlau na ddylai'r arian fod wedi ei gymryd ganddyn nhw yn y lle cyntaf.
Straeon perthnasol
- 30 Mai 2014
- 14 Mai 2014