Galw am 'agwedd fwy unedig' i reoli'r moroedd Celtaidd

Morlo Image copyright Reinhard Dirscherl

Mae'r moroedd Celtaidd yn mynd i "brysuro'n sylweddol" yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae'r elusen WWF yn rhybuddio y gallai fod gwrthdaro rhwng sectorau fel ynni a physgota yn ogystal ag "effaith fawr" ar yr amgylchedd os nad yw llywodraethau a diwydiannau yn cynllunio ar y cyd.

Yn eu hadroddiad mae 'na alw am "agwedd fwy unedig tuag at reoli ein moroedd," er mwyn creu swyddi a gwella iechyd yr amgylchedd morol.

Dywedodd Llywodraethau Cymru eu bod yn datblygu cynllun fydd yn "gosod ein polisïau a'n blaenoriaethau am y defnydd cynaliadwy o'n moroedd".

Poblogaeth isel

Mae'r moroedd Celtaidd yn gartref i ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys morloi, dolffiniaid a chwrel dyfroedd-oer.

Ond mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod poblogaethau nifer o bysgod yn isel, tra bod difrod i wely'r môr, lefelau llygredd a sbwriel môr yn bryder.

Dywedodd Dr Jenny Oats, rheolwr prosiect Partneriaeth Moroedd Celtaidd WWF wrth BBC Cymru bod 'na "risg y bydd ansawdd ein moroedd ni'n gwaethygu hyd yn oed ymhellach" heb well reolaeth o weithgaredd diwydiannol.

"Byddai hynny yn lleihau faint y gallwn ni fel pobl ei elwa o'r amgylchedd morol," meddai.

Image caption Mae'r adroddiad yn sôn am gynnydd mewn prysurdeb

Mae'r elusen yn honni bod y moroedd yn cyfrannu gwerth £15bn y flwyddyn i economïau'r DU, Iwerddon a Ffrainc, gan gefnogi 400,000 o swyddi.

Mae'r dyfroedd sy' dan ofal Llywodraeth Cymru tua'r un maint daearyddol â'r wlad ei hun - a hynny'n "ased enfawr i'r economi Gymreig".

Mae'r adroddiad - Tueddiadau'r Dyfodol yn y Moroedd Celtaidd - yn ystyried tri senario gwahanol ar gyfer yr 20 mlynedd nesa', gan gynnwys 'busnes fel arfer' a sefyllfa lle byddai gofynion amgylcheddol yn cael eu blaenoriaethu.

Mae'n rhagweld ym mhob senario y bydd y môr yn prysuro'n sylweddol, gyda thair ardal yn benodol sy'n debygol o wynebu heriau.

Yr ardaloedd yw aber Afon Hafren ar hyd arfordir de Cymru, y Môr Iwerydd, arfordir gogledd Cymru ac arfordir gorllewin Yr Alban.

'Ased sylweddol'

Yn gynyddol, mae cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr, fel y morlynnoedd llanw sy' dan ystyriaeth yn ne Cymru, pysgodfeydd a llongau cargo yn awyddus i weithredu yn yr un rhannau o'r môr.

Gall hynny arwain at densiynau, yn ôl yr adroddiad, yn ogystal â'r angen i gyflwyno mesurau i warchod bywyd gwyllt.

Bydd sŵn cynyddol, er enghraifft, yn gwneud y môr yn le sy'n llai cartrefol i famaliaid morol fel dolffiniaid a llamhidyddion, medd yr adroddiad.

Ond gallai hyn gael ei atal drwy leoli datblygiadau mawr ymhell oddi wrth ardaloedd lle mae'r bywyd gwyllt yn cenhedlu neu yn bwydo.

Mae cyfleoedd hefyd - gyda datblygiad ffermydd gwynt yn y môr, er enghraifft, yn debygol o roi hwb i borthladdoedd y rhanbarth o oddeutu £240m y flwyddyn yn y dyfodol.

Image caption Mae'r elusen yn galw am fesurau i ddiogelu bywyd gwyllt

Dywedodd Dr Oates: "Mae'r moroedd Celtaidd yn ased sylweddol ond fe wnaethon ni hefyd sylweddoli bod 'na bwysau cynyddol ar yr amgylchedd ac mae angen ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau at y dyfodol."

"Mae wir yn bwysig bod 'na agwedd unedig, gyda llywodraethau, diwydiannau a defnyddwyr y môr yn rhannu gwybodaeth a gweithio gyda'i gilydd i gymryd mantais o'r buddiannau, tra'n diogelu ein hamgylchfyd a bywyd gwyllt."

"Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydweithio gyda gwledydd cyfagos - achos dyw bywyd gwyllt ddim yn cydnabod ffiniau cenedlaethol. Mae angen i ni reoli'n moroedd mewn ffordd sy'n adlewyrchu hyn."

'Defnydd cynaliadwy'

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud eu bod ar hyn o bryd yn datblygu ei chynllun morol cenedlaethol gyntaf.

Dywedodd llefarydd: "Fel mae'r adroddiad yn cydnabod rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i ddatblygu'r cynllun morol cyntaf erioed i'n moroedd.

"Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn gosod ein polisïau a'n blaenoriaethau am y defnydd cynaliadwy o'n moroedd.

"Bydd y cynllun yn fodd o reoli ein hadnoddau morol naturiol mewn modd integredig gan barchu'r defnydd presennol ac adnabod cyfleoedd i'r dyfodol.

"Cyflwyno dull sy'n cael ei arwain gan gynllun yw'r ffordd o wneud y defnydd gorau o'r gwagle morol tra'n sicrhau bod ein hecosystemau morol yn parhau'n wydn."

'95% o'r fasnach nwyddau'

Dywedodd Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau, Alec Don bod y porthladd "o ddifrif am ein cyfrifoldebau i'r amgylchedd", a'u bod wedi cael statws carbon niwtral dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae porthladdoedd yn delio â 95% o fasnach Prydain mewn nwyddau ac yn gwasanaethu'r cyfrwng o gludo cynnyrch ar raddfa eang sydd â'r effaith lleiaf ar yr amgylchedd", meddai.

Ychwanegodd bod y porthladd yn cefnogi 5,000 o swyddi yn y sector ynni ac yn cyfrannu £400m i werth ychwanegol crynswth (GVA) Cymru.