Paul Bignot yn gwadu brathu chwaraewr arall yn ystod gêm

Paul Bignot Image copyright Huw Evans Agency

Mae un o chwaraewyr pêl droed Casnewydd yn apelio ar ôl cael ei wahardd rhag chwarae yn dilyn honiad ei fod wedi brathu gwrthwynebydd.

Cafodd yr amddiffynnwr Paul Bignot ddirwy o £600 a rhybudd wedi'r digwyddiad yn ystod gêm yn erbyn Cheltenham Town fis Medi.

Roedd hefyd wedi ei wahardd rhag chwarae chwech o gemau ond mae'r penderfyniad hwnnw wedi ei ohirio am ei fod wedi apelio.

Image copyright Huw Evans Agency

Mae'n gwadu'r honiad yn ei erbyn ac fe fydd ar gael i chwarae nos Fawrth yn erbyn AFC Wimbledon.

Cafodd Joss Labadie, chwaraewr arall i Gasnewydd ei wahardd am chwe mis am frathu pan oedd yn rhan o glwb Dagenham and Redbridge.

Dyw Casnewydd ddim wedi colli eu tair gêm ddiwethaf o dan arweiniad eu rheolwr newydd, Graham Westley.