Cwmni fferyllol yn creu hyd at 50 o swyddi yn Wrecsam

Ffatri Wockhardt Image copyright Google

Bydd cwmni fferyllol yn Wrecsam yn creu hyd at 50 o swyddi newydd gyda buddsoddiad gwerth £10m.

Mae Wockhardt, sy'n darparu meddyginiaethau fel inswlin i'r Gwasanaeth Iechyd, yn adeiladu cyfleuster gwneud a phrofi nwyddau yn ei ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Mae'r cwmni o India eisoes yn cyflogi 380 o weithwyr ar y safle.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r prif Weinidog Theresa May ymweld ag India gydag arweinwyr masnach.